Swydd cyfieithu i ferch o Fôn cyn graddio
Elinor Mair PritchardMae myfyrwraig o Ynys Môn wedi dechrau swydd llawn amser fel Cyfieithydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Gwynedd cyn iddi raddio!
Nid yn unig y bydd Elinor Mair Pritchard, 21, o Rosneigr yn graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg yr wythnos hon, mae hi hefyd wedi ennill gwobr Ellen Kent o £100 am ei thraethawd hir ‘Merched a Salwch Meddwl Mewn Nofelau Cymraeg’.
Mynychodd Elinor Ysgol Y Graig Llangefni cyn symud ymlaen i Ysgol Gyfun Llangefni lle astudiodd y BAC, Cymraeg, Daearyddiaeth a Chelf fel pynciau Lefel A. Enillodd Ysgoloriaeth Rhagoriaeth i astudio’r Gymraeg ym Mangor ar ôl eistedd arholiad ym mlwyddyn 13.
Penderfynnodd Elinor ddod i Fangor yn dilyn mynychu diwrnod agored, dywedodd: “Roedd yr Ysgol y Gymraeg yn groesawgar iawn. Rwyf hefyd yn hoff o gerdded felly roedd y ffaith fod Bangor mor agos at draethau a’r mynyddoedd yn apelio’n fawr ataf.
“Ar ddiwedd fy ail flwyddyn cefais interniaeth graddedig gyda'r Brifysgol. Roeddwn yn helpu Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau i hyrwyddo adnoddau a chasgliadau'r Brifysgol drwy raglen o ddigwyddiadau ar gyfer ysgolion lleol a'r gymuned yn ystod yr haf. Cefais hefyd gyfle i greu deunydd marchnata i hyrwyddo’r radd newydd, Cymraeg Proffesiynol, a fydd yn cychwyn ym Mangor eleni. Roedd hyn yn brofiad gwerthfawr iawn lle magais lawer o sgiliau defnyddiol ar gyfer y dyfodol a’r byd gwaith.
“Yn ystod fy nghyfnod fel myfyriwr ym Mangor, roeddwn yn aelod o UMCB (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor), y tîm cheerleading a fu’n cystadlu yn Nhelford a Birmingham, a’r clwb cerdded mynyddoedd.
“Mae’n deimlad braf iawn i fod yn graddio. Mae’r tair blynedd o waith caled wedi hedfan! Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn swydd llawn amser cyn graddio. Fy ngobaith ar gyfer y dyfodol yw parhau i weithio’n galed a mwynhau bywyd.”
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2017