Ysgoloriaeth PhD
Mae Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn rhan o gonsortiwm Astudiaethau Celtaidd gyda deuddeg adran academaidd arall mewn prifysgolion ledled Prydain. Gyda nawdd gan yr AHRC, cynigir ysgoloriaethau i astudio ar gyfer PhD. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch ar unwaith gyda'r cyfeiriad e-bost hwn: gerwyn@bangor.ac.uk, ac erbyn dydd Gwener, 12 Ionawr 2018 fan bellaf, gan fod rhaid cael eich enwebu ar gyfer y gystadleuaeth gan un o'r adrannau sy'n rhan o'r consortiwm. Ceir rhagor o fanylion yn y wefan hon.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2017