Cymaint haws yw bod yn bendant ac yn "galed" wrth fynd allan o'r t nag wrth ymadael â
rhywun.
Y cwestiwn y gofynnwyd i ni bleidleisio arno oedd hwn: "A ddylai'r Deyrnas Unedig aros yn
aelod o'r Undeb Ewropeaidd neu adael yr Undeb Ewropeaidd?" (yn Saesneg: "Should the
United Kingdom remain a member of the European Union or leave the European Union?").
Fe hoffwn i ddechrau drwy ddwyn y disgwrs yn ei ôl at yr hyn y pleidleisiwyd dros ei adael, sef
yr Undeb Ewropeaidd. Cyn deall effaith bosibl ymadael ar y Gymraeg, mae angen deall beth
yw'r Undeb Ewropeaidd. Rwyf am wneud hynny drwy ganolbwyntio yn gyntaf ar ddwy
agwedd ohoni, sef yr agwedd gyfreithiol (beth yw'r UE a beth yw ystyr ffurfiol ymadael ag ef),
a'r agwedd economaidd (beth mae'r UE yn ei wneud). Byddaf wedyn yn ystyried yn fras sut
y gallasai ymadael â pholisïau economaidd yr UE effeithio ar y Gymraeg, cyn troi at ystyried
effaith y refferendwm ar sefyllfa'r
Gymraeg fel iaith leiafrifol yn Ewrop ac at siaradwyr
Cymraeg fel grp lleiafrifol yn y DG. Byddaf yn gorffen drwy grybwyll effaith y refferendwm
ar un agwedd o lywodraethiant Cymru, sef taith Mesur Cymru drwy San Steffan, ac am
sefyllfa'r Gymraeg yn sgil hynny.
Yr agwedd gyfreithiol
Er mwyn deall natur gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd, rhaid deall rhywbeth am gyfraith
ryngwladol.
Cyfundrefn yw cyfraith ryngwladol sy'n rheoli perthnasau rhwng gwladwriaethau a'i gilydd.
Datblygiad cymharol ddiweddar ydyw, yn dilyn twf cenedl-wladwriaethau, ac mae'n
cadarnhau'r cysyniad o genedl-wladwriaethau fel endidau cyfreithiol annibynnol, y mae
hawliau a dyletswyddau yn perthyn iddynt mewn perthynas â'i gilydd.
Mae'r cysyniad hwn yn cael ei fynegi yn yr hyn y galwodd yr Athro Ian Brownlie "the basic
constitutional doctrine of the law of nations", sef sofraniaeth a chydraddoldeb
gwladwriaethau. Yn ôl Brownlie, mae tri chanlyniad yn deillio o sofraniaeth a chydraddoldeb
gwladwriaethau, sef
2