Canfod Cregyn Gleision cynaliadwy ym Môr Iwerddon

Un o gychod y fflyd yn y Fenai.: Llun gan Gymdeithas Cynhyrchwyr Cregyn Gleision BangorUn o gychod y fflyd yn y Fenai.: Llun gan Gymdeithas Cynhyrchwyr Cregyn Gleision BangorPan fydd llynges fwyaf Prydain o gychod pysgota cregyn gleision yn mynd allan i'r môr yn ddiweddarach y mis hwn, eu nod fydd chwilio am had gwerthfawr cregyn gleision. Byddant yn dod â'r rhain yn ôl i'r Fenai i dyfu cyn eu casglu i'w hallforio. 

Os bydd y project ymchwil newydd hwn ym Môr Iwerddon yn llwyddiannus, efallai mai hwn fydd un o'r troeon olaf y bydd angen i'r llynges fynd allan o Borth Penrhyn ym Mangor i chwilio am had cregyn gleision.

Yn ddiweddar cafodd 'Cynllun Peilot Porth Môr Iwerddon' grant o EUR 1M drwy raglen gydweithredu Iwerddon-Cymru yr Undeb Ewropeaidd, a dylai hyn roi gwell dealltwriaeth i bysgotwyr a gwyddonwyr o'r ffordd mae larfâu pysgod cregyn yn teithio o amgylch Môr Iwerddon, a phryd ac ymhle y gellir dod o hyd iddynt. 

Gall yr ymchwil hon, a fydd yn cynyddu effeithlonrwydd y llynges, arwain hefyd at ddatblygu marchnad newydd ym Mhrydain i'r cregyn gleision.  Gallai ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o fwyd i archfarchnadoedd ym Mhrydain a'r gadwyn cyflenwi bwyd leol.  Wrth edrych at y dyfodol dywed y cwmni y gall hyn fod yn ysgogiad i ddatblygu canolfan leol i gynhyrchu cregyn gleision a fyddai'n darparu'r cynnyrch rhagorol hwn yn lleol a chyflawni galw cynyddol gan y diwydiannau manwerthu a lletygarwch am gynnyrch sy'n dod o ffynonellau lleol. 

I Gymdeithas Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Bangor, grŵp sy'n cynnwys tri o gwmnïau cregyn gleision Bangor, y project hwn yw'r diweddaraf mewn partneriaeth ymchwil faith ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Hadau cregyn gleision gwyllt  yn cael eu tyfu ymlaen.Hadau cregyn gleision gwyllt yn cael eu tyfu ymlaen.Bangor.  Mae ymchwil ar y cyd wedi rhoi tystiolaeth wyddonol ac amgylcheddol fanwl i'r cynhyrchwyr cregyn gleision i gefnogi eu diwydiant, gan gynorthwyo'r cynhyrchwyr i gael ardystiad hollbwysig y Marine Stewardship Council am gynaliadwyedd eu gweithgareddau.

Dylai'r project i ymchwilio i batrymau symudiad larfâu pysgod cregyn ym Môr Iwerddon helpu i leihau costau cael hyd i had pysgod cregyn sy'n cael ei gasglu a'i 'ail-hau' ar draethellau lleidiog, a chynyddu nifer y cregyn gleision a physgod cregyn sydd ar gael i'r diwydiant.  

Meddai Trevor Jones ar ran y grŵp:

"Mae gennym gynnyrch gwerthfawr, maethlon a chynaliadwy.  

"Ar hyn o bryd rydym yn treulio llawer o amser yn chwilio am had cregyn gleision gwyllt er mwyn eu tyfu fel y gallwn eu cynaeafu.  Bydd gwell dealltwriaeth o lle a phryd y mae'r had cregyn gleision i'w cael yn cynyddu ein heffeithlonrwydd a chynaliadwyedd." 

"Bydd gweithio gydag arbenigwyr yn y brifysgol a rhannu dulliau gweithredu gorau o Iwerddon yn ein helpu i gael y fantais fwyaf o'r adnoddau cynaliadwy gwerthfawr rydym yn eu rhannu."

Meddai Dr Shelagh Malham, sy'n arwain yr ymchwil o Ysgol Gwyddorau  Eigion y brifysgol:  "Mae gweithio gyda'n cymheiriaid yn Iwerddon yn rhoi cyfle i ni reoli adnoddau gwerthfawr cyffredin rhwng ein glannau, a gwella ein dealltwriaeth o'r prosesau dan sylw." 

"Pan mae'r cregyn gleision yn silio, mae'r larfâu'n teithio gyda'r cerrynt.  Mae lle maent yn setlo yn dibynnu ar y llanw ac amodau'r tywydd ar unrhyw adeg neilltuol," ychwanegodd.

Cregyn GleisionCregyn GleisionEglurodd Dr Peter Robins, cymrawd ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion:

"Gan ddefnyddio uwch-gyfrifiaduron, gall modelau cymhleth ddynwared patrymau cylchrediad y cefnfor a mapio lle bydd silfeydd larfâu yn cael eu cario ym Môr Iwerddon yn unol â'r amodau tymhorol. Gellir rhannu'r wybodaeth hon wedyn â'r pystogwyr cregyn gleision fel byddant yn gwybod yn lle a phryd i gael hyd i'r 'had cregyn gleision' hyn.  Bydd defnyddio'r manylion a geir drwy'r model, ynghyd â gwybodaeth leol pysgotwyr, yn dangos i ni sut mae'r larfâu'n nofio, gan ddefnyddio'r cerrynt i geisio sicrhau bod y nifer mwyaf posibl yn goroesi.    Byddwn yn ymchwilio i weld hefyd pa mor dda mae'r cregyn gleision yn ymlynu a thyfu ar wahanol fathau o wely môr ac arwynebau eraill." 

Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2017