Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2016
Drwy gydol Chwefror a Mawrth bu Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor yn dathlu Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2016 - Blwyddyn y Mwnci - gyda phob math o ddigwyddiadau cyffrous ym Mangor a'r cyffiniau.
Cyflwynwyd gweithdai Tsieineaidd diwylliannol i dros 15 o ysgolion lleol a grwpiau cymunedol, a chynhaliodd y Sefydliad ddigonedd o weithgareddau llawn hwyl i'r teulu. Roedd y rhain yn cynnwys diwrnod ffilm a chrefftau Tsieineaidd yn Theatr Colwyn ddydd Sadwrn 6 Chwefror, a gweithdy arbennig pypedau draig yng Nghastell Penrhyn ddydd Sadwrn 27 Chwefror.
Uchafbwynt y digwyddiadau eleni'n ddi-os oedd Gorymdaith y Ddwy Ddraig ddydd Sadwrn 13 Chwefror. Cafwyd gorymdaith liwgar a bywiog gyda phypedau drwy ganol dinas Bangor, wedi ei chreu a'i pherfformio gan blant o Ysgol Hirael. Yn y prynhawn yn dilyn yr orymdaith cafwyd gweithdy caligraffi galw i mewn yn Oriel Canolfan Siopa Deiniol, a daeth tymor y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd i'w derfyn ddydd Sul, 6 Mawrth, gydag ail weithdy caligraffi yn Pontio i gyd-fynd â dangos ffilm newydd yn yr iaith Fandarin, The Assassin (12A).
Mae Sefydliad Confucius yn parhau i gynnal dosbarthiadau Tsieiniadd rheolaidd gydag ysgolion lleol, yn cynnwys Ysgol Friars, Hirael ac Ein Harglwyddes (Bangor); Ysgol Kingsland, Caergybi a Llanbedrgoch (Ynys Môn); ac ymhellach i ffwrdd, Ysgol y Gader (Dolgellau) ac Ysgol Uwchradd Dinbych. Cynhelir dosbarthiadau Mandarin rheolaidd hefyd bob wythnos yng Ngholeg Menai ac, yn ychwanegol, mae'r Sefydliad ar hyn o bryd yn cynnal Dyddiau Llun Tsieineaidd ar Safle'r Santes Fair; dosbarth arbennig gyda'r nos i fyfyrwyr Prifysgol Bangor.
Mae gweithgaredd estyn allan yn parhau o ddifrif gyda sesiynau iaith a diwylliant Tsieineaidd yn cael eu cyflwyno i ysgolion, grwpiau cymunedol ac unigolion ar draws y rhanbarth. Hefyd mae nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus pellach i'w cynnal yn ddiweddarach eleni, yn cynnwys arddangosfeydd celf, perfformiadau cerddoriaeth a thrydedd Ŵyl Barcutiaid yn yr haf.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw rai o ddigwyddiadau neu weithgareddau Sefydliad Confucius, cliciwch yma, chwiliwch amdanom ar Facebook (Sefydliad Confucius Bangor Confucius Institute) neu e-bostio: confuciusinstitute@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2016