Myfyrwyr yn uno ar gyfer dawnsiau Tsieineaidd trawiadol
Bydd dawnswyr ifanc o bob rhan o ogledd Cymru yn ymuno â dawnswyr proffesiynol i gymryd rhan mewn perfformiad o ddawnsiau Tsieineaidd trawiadol ym Mhrifysgol Bangor ddydd Sadwrn, 11 Mehefin, sef y diweddaraf mewn cyfres o brojectau cymunedol cyffrous i'w cyflwyno gan Sefydliad Confucius y Brifysgol.
Y ddawnswraig broffesiynol Yuan Liu, a raddiodd o Academi Ddawns fyd-enwog Beijing ac sy'n dysgu yn Sefydliad Confucius, fydd prif atyniad y digwyddiad hwyliog teuluol hwn - Tarddle Natur, Harddwch Diniweidrwydd - yn dangos rhai o'r dawnsiau Tsieineaidd traddodiadol a ddysgwyd gan ei disgyblion yn Ysgol Hirael, Ysgol Pendalar, Ysgol Ein Harglwyddes a Choleg Menai dros y misoedd diwethaf. Bydd Colin Daimond, artist proffesiynol ym maes symudiad, yn ymuno â Yuan yn y perfformiad.
“Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu dod â'r bobl ifanc dalentog hyn at ei gilydd i ddathlu diwylliant Tsieina fel hyn", meddai Dr David Joyner, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Bangor.
“Mae ein rhaglen dawns Tsieineaidd wedi agor drysau i lawer o fyfyrwyr newydd eleni ac rydym wedi gweld ei fod yn ffurf hynod hygyrch a phoblogaidd o gelfyddyd.”
Gan ddod â phobl ifanc o bob rhan o Wynedd at ei gilydd, mae'r perfformiad yn dathlu amrywiaeth mewn diwylliant ac yn cynnwys perfformwyr o bob oed a gallu fel plant ysgol mor ifanc â phump oed i fyfyrwyr sy'n astudio celfyddydau perfformio yn y coleg. Cynhaliwyd ymarferion dawnsio ers mis Chwefror, gan arwain at gasgliad trawiadol o ddarnau sy'n dathlu'r gorau o ddawnsiau traddodiadol Tsieina.
Cynhelir y perfformiad (Tarddle Natur, Harddwch Diniweidrwydd) yn Neuadd Prichard Jones, Prifysgol Bangor ddydd Sadwrn, 11 Mehefin, 4-5.15pm. Bydd tocynnau i'r perfformiad ar gael yn y digwyddiad a gellir eu prynu wrth y drws am £2.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2016