Nifer helaeth yn dod i ddathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd
Mae cannoedd o bobl a gasglwyd yng nghanol dinas Bangor ddydd Sadwrn, 4 Chwefror ar gyfer dathliad mwyaf y ddinas o'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd hyd yma - Blwyddyn y Geiliog 2017.
15 metr o hyd a oedd yn ymdroelli drwy ganol y ddinas ynghyd â dawnswyr a drymwyr mewn gwisgoedd traddodiadol.
Cafwyd gala Tsieineaidd wedyn, yn cynnwys repertoire trawiadol o gerddoriaeth a dawns Tsieineaidd, a Kung Fu gan berfformwyr dawnus o'r Sefydliadau Confucius ym Mhrifysgol Bangor a'r London South Bank University. Bu i blant o Ysgol Ein Harglwyddes ac Ysgol Tsieineaidd Gogledd Cymru ym Mangor gymryd rhan hefyd, gan arddangos nifer o ddawnsfeydd rhagorol y maent wedi bod yn eu meistroli ers mis Medi.
Roedd y gala hefyd yn cynnwys perfformiadau lleisiol sydd wedi ennill gwobrau, a hynny gan Fu Lian, sy'n ddim ond un ar bymtheg mlwydd oed, ac yn astudio Mandarin gyda'r Ganolfan Confucius ar hyn o bryd, a chan staff y Ganolfan ei hun; y Cyfarwyddwr Xin Yanjun a'r Artist Preswyl Raymond Murphy, gyda deuawd Tsieinëeg/Cymraeg arbennig o Ar Hyd y Nos.
"Roedd y digwyddiad yn wych," meddai'r Artist Preswyl, Raymond Murphy.
“Roedd yna dyrfa helaeth wedi ymgynnull o flaen y llwyfan, ac mae nifer o bobl wedi dweud wrtha'i mai dyma'r digwyddiad gorau iddynt ei weld yn y dref. Am ychydig o oriau ddydd Sadwrn, cafwyd naws o Tsieina ym Mangor, a wnaeth wahaniaeth go iawn.”
Roedd gwesteion arbennig ar y diwrnod yn cynnwys Maer Bangor, y Cynghorydd Dewi Williams, a'r actores leol Angharad Rhodes, 13, sy'n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y gyfres deledu Melody ar CBeebies.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Chwefror 2017