Partneriaeth newydd gyda Prifysgol Addysgeg Talaith Volgograd, Rwsia
Ar ddydd Mawrth 27 Ionawr 2015, croesawodd y Sefydliad Confucius yr Athro Olga Leontovich i Fangor. Hi yw Pennaeth Cyfathrebu Rhyngddiwylliannol a Chyfieithu Prifysgol Addysgeg Talaith Volgograd (VSPU), y brifysgol hyfforddi athrawon mwyaf yn ne Rwsia.
Mae'r Athro Leontovich yn bennaeth y Ganolfan Ymchwil i Gyfathrebu Rhyngddiwylliannol Rwsaidd-Tsieineaidd yn Volgograd a hefyd yn aelod o Fwrdd Sefydliad Confucius VSPU. Mae ei ddarlith: Confucius Institutes as a Medium for Intercultural Communication Practices, a roddwyd yn y Sefydliad Confucius yma ym Mangor, yn nodi dechrau cydweithrediad cryf rhwng y ddwy brifysgol ym Mangor a Volgograd; partneriaeth sy'n bwriadu ymchwilio i faterion yn ymwneud â chyfathrebu ac arferion rhyngddiwylliannol yn y DU, Rwsia a Tsieina mewn perthynas â natur fyd-eang gynyddol y Sefydliad Confucius.
Rhagor o Wybodaeth
Mae'r Athro Olga Leontovich yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Cyfathrebu Rwsiaidd ac yn aelod o'i Bwyllgor Cydgysylltu. Mae'n aelod o fyrddau golygyddol amryw o gyfnodolion academaidd gan gynnwys y Russian Journal of Communication, ac mae wedi cyfrannu at gynadleddau a darlithoedd ar draws y byd. Mae ei phrif ddiddordebau ymchwil yn cynnwys ethnograffeg iaith a chyfathrebu, cyfathrebu rhynddiwylliannol a dadansoddi disgwrs diwylliannol, ac mae wedi ysgrifennu dros 160 o gyhoeddiadau, gan gynnwys:
• The Dictionary of U.S. Life and Culture i ddarllenwyr Rwsieg (cyd-awdur E. Sheigal, 1998, ail argraffiad 2000)
• Sawl cofnod i'r World Education Encyclopedia (2002)
• Russians and Americans: Paradoxes of Intercultural Communication (2003, 2005)
• Introduction to Intercultural Communication (2007)
• Communication Research Methods (2011)
• Understanding as the Beginning of Agreement: Intercultural Family Communication (cyd-awdur E. Yakusheva, 2014)
Mae'r Athro Leontovich hefyd wedi golygu sawl monograff yn cynnwys: Chinese Language and Culture in the Modern Global World (2010).
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2015