Tseina yn cyrraedd Porthaethwy
Dros gyfnod o dri diwrnod, gyda chymorth tiwtoriaid o Sefydliad Confucius o Brifysgol Bangor, bu grwpiau o ddisgyblion Blwyddyn 9 yn treulio’u hamser yn dysgu am Tai Chi, caligraffi a Mandarin fel rhan o Ddiwrnodau Sgiliau’r ysgol.
Wrth ddysgu am Tai Chi, dysgodd y disgyblion sut i wella cydbwysedd, osgo, cryfder a hyblygrwydd eu cyrff, sut i liniaru straen a gorbryder ynghyd â sut i wella eu cof, eu gallu i ganolbwyntio a chyflawni sawl gorchwyl ar yr un pryd.
Ystyrir caligraffi fel un o brif gelfyddydau gweledol Tseina a bu’r disgyblion yn mwynhau dysgu am hanes llythrennu tseineaidd a sut bu iddo esblygu a datblygu dros y canrifoedd.
Fe lwyddon nhw i ysgrifenu llythrennau syml tseineaidd a sut i ffurfio geiriau ar bapur. Yn ogystal, bu’r disgyblion wrthi’n ddyfal yn dysgu sut i gyfarch a sut i gynnal sgwrs syml mewn Mandarin.
‘Mi wnes i wirioneddol fwynhau sut i wneud caligraffi a dysgu ychydig o Tai Chi,’ meddai Shannon, disgybl Blwyddyn 9. ‘Roedd gwneud y caligraffi yn debyg i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ac fe hoffwn i wneud hwn eto.’
Ar ran Ysgol David Hughes, dywedodd Mrs Meinir Davies, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol,
‘Mae Sefydliad Confucius wedi rhoi’r cyfle i’n disgyblion ddysgu mwy am wahanol ddiwylliannau drwy gyfrwng celf, iaith a symudiad. Fe wnaeth y disgyblion fwynhau’n fawr cael blas ar brofiadau newydd a siarad gyda’r tiwtoriaid. Hwn yw’r ail dro i Sefydliad Confucius arwain sesiynau yn Ysgol David Hughes ac rydan ni’n bendant yn gobeithio croesawu’r tiwtoriaid yma eto flwyddyn nesaf .’
Nod Sefydliad Confucius yw i bontio’r cyfnewid diwylliannol ac addysgol rhwng Tseina a Chymru drwy roi cyfle i bobl gael blas ar ddiwylliant ac iaith Tsieina a dysgu mwy amdanynt.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2019