Ymweliad Ysgol St Winefride’s
Cafodd disgyblion o ysgol St. Winefride’s, Treffynnon flas ar ddiwylliant Tsieineaidd yr wythnos hon yn ystod ymweliad â Sefydliad Conficius, Bangor.
Fel rhan o waith parhaus Prifysgol Bangor yn cryfhau ei pherthynas â chymunedau gogledd Cymru, trefnodd y Ganolfan Ehangu Mynediad ddiwrnod o weithgareddau Tsieineaidd ar gyfer y plant 9 – 11 oed. Yn ystod y dydd, bu disgyblion St Winefride’s yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithdai tai chi, gan ddysgu am fanteision iachusol, ynghyd â manteision myfyrdod ac amddiffyn y grefft Tseineaidd hon o ymladd. Dysgodd y disgyblion hefyd sut i wneud clymau Tsieineaidd addurnol – gweithgaredd gweddol newydd yn Tsieina fodern, ond mewn gwirionedd mae'n gelfyddyd Tsieineaidd hynafol sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod cynhanesyddol.
Yn dilyn y diwrnod llawn o weithgareddau, dywedodd Delyth Murphy, Pennaeth y Ganolfan Ehangu Mynediad,
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb yn Sefydliad Conficius am eu gwaith heddiw. Roedd hi’n ddiwrnod llawn o weithgareddau, wedi ei werthfawrogi yn fawr gan staff, rhieni a phlant St. Winefride's. Bwriad yr ysgol yw dychwelyd y flwyddyn nesaf gan eu bod wedi mwynhau gymaint ar weithdai eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2019