Module HTC-2132:
Rhyfel Mawr trwy lygaid y Cym.
Module Facts
Run by School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Overall aims and purpose
Bydd 'Y Rhyfel Mawr trwy lygaid y Cymry' yn cynnig arolwg eang o ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru, ac ar ddiwylliant Cymreig a Chymraeg. Ni fydd yr astudiaeth yn cyfyngu ei hunan i ddigwyddiadau 1914-18, ond yn hytrach bydd yn trafod y cyfnod o 1880 i'r presennol. Byddwn yn cychwyn trwy edrych ar sut oedd y Cymry yn edrych ar eu safle yn y byd yn y degawdau cyn y Rhyfel, ac yn ystyried effaith yr ymladd ar feddylfryd y Cymry ar y pryd, ac yn y degawdau ers y cadoediad. Wrth astudio sut mae'r Rhyfel wedi cael ei bortreadu a'i gofio yn y Gymraeg byddwn yn dadansoddi sut mae’r newidiadau yn y coffáu yn adlewyrchu’r sefyllfa gyfredol yng Nghymru.
Course content
(Wythnos 1) Cyflwyniad Darlith 1 - Adrodd hanes y Rhyfel Sut mae’r ddealltwriaeth o’r Rhyfel Mawr wedi newid dros y degawdau Seminar 1 - Trafodaeth o sut mae’r myfyrwyr yn edrych ar y Rhyfel, a’r delweddau sydd yn gyfarwydd i’r Cymry; gwylio rhaglen Y Rhwyg (1988), a gyflwynwyd gan Dr John Davies (Wythnos 2) 1880-1914 Darlith 2 - Sôn am ryfel; poeni am ryfel; paratoi at ryfel; ysu am ryfel? Darlith 3 - Gorffennaf i Awst 1914 (Wythnos 3) Gwleidyddiaeth: Lloyd George, y Rhyddfrydwyr a’r Sosialwyr Darlith 4 - Cymeriad Lloyd George; Cyfraniad Lloyd George; Chwedl Lloyd George; Atgofion Lloyd George Darlith 5 - Sosialwyr a’r Rhyfel Seminar 2 – Gwleidyddiaeth a’r Rhyfel. Sut wnaeth gwleidyddion bortreadu’r Rhyfel, yn ystod yr ymladd ac yn y degawdau canlynol. (Wythnos 4) Her i’r hen syniadau am wareiddiad Darlith 6 - Gwrthwynebwyr Cydwybodol; Merched Cymru a’r Rhyfel Seminar 3 - Ymladd a gwrthod ymladd: agweddau Gwrthwynebwyr Cydwybodol, ac agweddau cymdeithas tuag at wrthwynebwyr cydwybodol (Wythnos 5) Ennill y Rhyfel; colli’r heddwch Darlith 7 – Buddugoliaeth Lloyd George? Cytundeb Versailles Darlith 8 – Dirwasgiad a Dadrithiad: y 1920au; Gwersi 1914 a’r ymgais i gymodi â Hitler: y 1930au (Wythnos 6) Yn sgil y Dadrithio Darlith 9 – Ymateb llenyddol yn y degawdau ar ôl 1918: chwedl Hedd Wyn; All Quiet on the Western Front Seminar 4 - David Davies a’r mudiad heddwch; Dyhuddiaeth a gwrthwynebiad i’r Ail Ryfel Byd (Wythnos 7) Y Llewod a’r Asynnod Darlith 10: Trafodaeth y 1960au: ‘Lions led by Donkeys’; pwysleisio ffolineb a gwastraff y rhyfel Seminar 5 – Gwylio darnau o gyfres The Great War (BBC, 1964) (Wythnos 8) Conundrum ‘y ddau Ffrynt Gorllewinol’ Darlith 11: Y gwahaniaeth rhwng maes y gad a fodolodd yn Ffrainc a Fflandrys rhwng 1914 a 1918 a’r un dychmygol sy’n gread y cenedlaethau a edrychai nôl mewn syndod a braw Seminar 6 – Cofeb Mametz; gwylio rhaglen Mametz (S4C, 1987) (Wythnos 9) Atgofion hen wŷr Darlith 12 - Trafferthion gydag atgofion cyn-filwyr, er gwaethaf eu hatyniad amlwg Darlith 13 – atgofion Griffith Williams, Bob Owen ac Ithel Davies (Wythnos 10) Hanes Diwylliannol y Rhyfel Darlith 14 - Rhoi’r cyfan mewn i gyd-destun diwylliannol Seminar 7 – Portreadu’r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg heddiw: Lleisiau’r Rhyfel Mawr (2008) + Sesiwn ar gyfer cyflwyniadau’r myfyrwyr
Assessment Criteria
threshold
Trothwy D- - D+ Er mwyn ennill credyd dylai’r myfyrwyr ddangos dealltwriaeth a gwybodaeth sylfaenol o hanes y Rhyfel Mawr a’i effaith ar Gymru. Fe ddylent allu adnabod y prif ffyrdd yr effeithiwyd ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru gan y Rhyfel.
good
Da C- - B+ Er mwyn ennill graddau uwch yn y modiwl hwn, disgwylir i’r myfyrwyr ymateb yn feirniadol i gwestiynau sy’n cael eu gofyn am ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru. Bydd yna ymwybyddiaeth o’r hanesyddiaeth ar y pwnc. Byddent yn gallu ymateb i gwestiynau traethawd / cyflwyniad mewn modd argyhoeddiadol.
excellent
Rhagorol A- - A* Er mwyn ennill y graddau uchaf disgwylir i’r myfyrwyr gynnig dehongliadau gwreiddiol o’r ffeithiau hanesyddol, gan gyferbynnu effaith y Rhyfel ar Gymru â’r effaith ar wledydd eraill. Byddent yn gallu dangos eu bod nhw’n ystyried ac yn cyfeirio at waith a dadleuon haneswyr sefydledig, ond eu bod nhw’n gallu cymryd rhan mewn dadleuaeth. Disgwylir hefyd iddynt drafod iaith, arddull a syniadau’r testunau mewn modd treiddgar ac arloesol.
Learning outcomes
-
dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth gref o effaith y Rhyfel Mawr ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru
-
dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’r newidiadau a fu mewn dehongliad y Cymry o’r Rhyfel, a deall y cysylltiad rhwng datblygiadau cymdeithasol yn y degawdau wedi’r Rhyfel, a’r newidiadau yn sut oedd y Cymry yn deall digwyddiadau 1914-18
-
casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol
-
datblygu eu hymwybyddiaeth o’r cwestiynau gwleidyddol cyfredol sydd yn ymwneud â’r ddealltwriaeth gyffredinol o hanes y Rhyfel.
-
datblygu eu sgiliau cyfathrebu, ar lafar ac ysgrifenedig
Assessment Methods
Teaching and Learning Strategy
Hours |
---|
Courses including this module
Compulsory in courses:
- V100: BA History year 2 (BA/H)
- V10F: BA History [with Foundation Year] year 2 (BA/HF)
- 8B03: BA History (with International Experience) year 2 (BA/HIE)
- V10P: BA History with Placement Year year 2 (BA/HP)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 2 (BA/MHIE)
- V102: MArts History with International Experience year 2 (MARTS/HIE)
- V101: MArts History year 2 (MARTS/HIST)
Optional in courses:
- 3QV1: BA History and English Literature year 2 (BA/ELH)
- P3V1: BA Film Studies and History year 2 (BA/FSH)
- V103: BA History and Archaeology year 2 (BA/HA)
- VV41: BA Herit, Archae & Hist year 2 (BA/HAH)
- VV42: BA Heritage, Archaeology & History with International Exp year 2 (BA/HAHIE)
- V1V9: BA History with Archaeology with International Experience year 2 (BA/HAIE)
- V13P: BA History and Archaeology with Placement Year year 2 (BA/HAP)
- V1V4: BA History with Archaeology year 2 (BA/HAR)
- MVX1: BA History/Criminology year 2 (BA/HCR)
- LV11: BA History/Economics year 2 (BA/HEC)
- RV11: BA History/French year 2 (BA/HFR)
- V1W6: BA History with Film Studies year 2 (BA/HFS)
- V1W7: BA History with Film Studies with International Experience year 2 (BA/HFSIE)
- RV21: BA History/German year 2 (BA/HG)
- RV31: BA History/Italian year 2 (BA/HIT)
- RV32: BA History and Italian (with International Experience) year 2 (BA/HITIE)
- V1P5: BA History with Journalism year 2 (BA/HJ)
- 8S11: BA History with Journalism (with International Experience) year 2 (BA/HJIE)
- VW13: BA History and Music year 2 (BA/HMU)
- VW14: BA History and Music with International Experience year 2 (BA/HMUIE)
- V1PM: BA Hanes gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/HN)
- RV41: BA History/Spanish year 2 (BA/HSP)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 2 (BA/HSW)
- V140: BA Modern & Contemporary History year 2 (BA/MCH)
- V130: BA Mediaeval and Early Modern His year 2 (BA/MEMH)
- VV15: BA Medieval & Early Modern History with International Exp year 2 (BA/MEMHIE)
- R804: BA Modern Languages & History year 2 (BA/MLH)
- VVV1: BA Philosophy and Religion and History year 2 (BA/PRH)
- VVV2: BA Philosophy and Religion and Welsh History year 2 (BA/PRWH)
- LV31: BA Sociology/History year 2 (BA/SH)
- LV41: BA Social Policy/History year 2 (BA/SPH)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 2 (BA/SPWH)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- V104: BA Welsh History and Archaeology year 2 (BA/WHAR)
- VP23: BA Welsh History and Film Studies year 2 (BA/WHFS)
- VV12: BA Welsh History/History year 2 (BA/WHH)
- VW2H: BA Welsh History and Music year 2 (BA/WHMU)
- LVH2: BA Welsh History/Sociology year 2 (BA/WHS)
- M1V1: LLB Law with History year 2 (LLB/LH)
- M1V2: LLB Law with History (International Experience) year 2 (LLB/LHI)