Module LCM-4021:
Creu Disgyblaeth
Creu Disgyblaeth 2023-24
LCM-4021
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
30 credits
Module Organiser:
Helena Miguelez-Carballeira
Overview
Yn ystod y cwrs hwn, cyflwynir chi i ddisgyblaeth Astudiaethau Cyfieithu fel sydd wedi datblygu dros y tri degawd diwethaf. Drwy astudio nifer o waith arloesol, cewch eich arwain drwy ddadleuon cyfoes am theori ac ymarfer cyfieithu, yn cynnwys y ddadl ynghlwm â chysyniadau megis 'cywerthedd', 'ystumio', 'gwahaniaethau mewn grym', ffeminist, 'hoyw', a dadleuon ôl-drefedigaethol. Rhoddir amser i astudio cyfieithu testunol a chlywedol. Caiff achosion ac enghreifftiau ymarferol, mewn amrywiaeth o ieithoedd modern, eu hystyried yng ngoleuni'r dadleuon damcaniaethol yr ymdrinnir â nhw.
Assessment Strategy
-threshold -C- - C+: Dylai myfyrwyr ddangos dealltwriaeth boddhaol o'r testun a astudir, gan ffurfio casgliadau pendant ynghylch dilysrwydd a defnyddiau theori feirniadol yn gyffredinol.
-good -B- - B+: Bydd myfyrwyr sy'n derbyn y graddau asesu uwch wedi dadansoddi'r ffynonellau a ddarperir, gan werthuso deunydd eilaidd ar destunau penodol a'u hasesu fel maent yn ffurfio'u casgliadau argyhoeddiadol eu hunain.
-excellent -A- - A*: Er mwyn cael y graddau uchaf, bydd myfyrwyr wedi ychwanegu at y testunau a astudir yn y dosbarth gyda deunydd darllen gwreiddiol ac eilaidd ychwanegol. Byddant wedi dadansoddi a gwerthuso darlleniadau sydd eisoes yn bod o theori feirniadol a dod i'w casgliadau arloesol ac ystyriol eu hunain.
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn cael mwy o ymwybyddiaeth o amrywiaeth y trafodaethau mewn Astudiaethau Cyfieithu.
- Bydd myfyrwyr yn cael profiad o enghreifftiau testunol o theorïau beirniadol penodol.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi'r berthynas rhwng theorïau unigol a'r pwnc y defnyddir nhw.
- Bydd myfyrwyr yn gallu daddansoddi defnyddiau a dilysrwydd y gwahanol theorïau o gyfieithu.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Dyddiadur
Weighting
40%
Due date
15/12/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd
Weighting
60%
Due date
08/01/2024