Module SCY-2003:
Trosedd a Chyfiawnder
Trosedd a Chyfiawnder 2023-24
SCY-2003
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gwenda Jones
Overview
Modiwl sy'n atgyfnerthu a chynyddu dealltwriaeth myfyrwyr o wahanol fesurau troseddu a sut mae’r prif asiantaethau troseddol yn gweithredu o dan ofynion pryderon cynyddol ar lefel rhyngwladol. Gwerthusir ac adolygir rôl, cyfrifoldebau a lefelau atebolrwydd y prif asiantaethau cyfiawnder troseddol yng nghyd-destun pryderon cyfoes am fathau penodol o droseddau a throseddwyr, megis troseddau ieuenctid, terfysgaeth, seiber a throseddau difrifol a threfniadol yn bennaf.
Ymdrinnir â'r themau canlynol:
Adolygir y system cyfiawnder troseddol, gan edrych yn fanylach ar rhai o broblemau'r sector. Ystyrir tuedd yn y system cyfiawnder troseddol a'r gyfraith o safbwynt grwpiau hil ag ethnig, gender a rhywioldeb, gan ystyried holl amrediad anghydraddoldebau mewn perthynas a chyfiawnder. Gwerthusir y dadleuon mwyaf blaenllaw o safbwynt erlyniaeth trais rhywiol a strategaethau i gynnig gwell cydlyniadaeth ag ymateb polisi. Ymdrinnir yn ddwys gyda niwed cymdeithasol sy'n deillio o droseddau difrifol a threfniadol megis troseddu coler wen, terfysgaeth, llafur gorfodol, masnachu pobl. Ystyrir hefyd niwed yn deillio o droseddau'r stryd, panig moesol, troseddwyr ifanc ac ecsbloetio mewn throseddu gangiau.
Assessment Strategy
Trothwy (40-49%) Aseiniad Dangos dealltwriaeth sylfaenol o batrymau trosedd ac ystadegau troseddol; darparu cyfrif cydlynol o'r broses cyfiawnder troseddol; deall swyddogaethau allweddol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr; disgrifio materion cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi pwysig mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith droseddol a chyfiawnder troseddol; gallu ymdrin â dadansoddiad cymharol ar lefel sylfaenol.
Cyflwyniad Llafar Dangos dealltwriaeth sylfaenol o batrymau trosedd ac ystadegau troseddol; dangos ymwybyddiaeth o duedd gynhenid y system cyfiawnder troseddol; disgrifio materion cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi pwysig mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith droseddol a chyfiawnder troseddol.
Da (50-69%) Aseiniad Dangos ymwybyddiaeth dda o batrymau troseddau a chyfyngiadau ystadegau troseddol; darparu eglurhad cywir o'r broses cyfiawnder troseddol gyda rhywfaint o werthusiad o weithrediad un neu fwy o asiantaethau cyfiawnder troseddol; deall a darparu peth dadansoddiad o swyddogaethau allweddol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr a'i weithrediad mewn amgylchiadau penodol; gallu ymdrin yn gynhwysfawr a beirniadol â dadansoddiad cymharol.
Cyflwyniad Llafar Dangos ymwybyddiaeth dda o batrymau troseddau a chyfyngiadau ystadegau troseddol; darparu eglurhad cywir o'r broses cyfiawnder troseddol gyda rhywfaint o werthusiad o weithrediad un neu fwy o asiantaethau cyfiawnder troseddol; dangos ymwybyddiaeth soled o duedd gynhenid y system cyfiawnder troseddol a'i oblygiadau; dadansoddi materion cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi pwysig mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith droseddol a chyfiawnder troseddol.
Rhagorol (70-95%) Aseiniad Dangos dealltwriaeth feirniadol o batrymau trosedd ac ymagwedd soffistigedig tuag at ystadegau troseddol; rhoi cyfrif o'r broses cyfiawnder troseddol sy'n cynnwys gwerthusiad beirniadol sylweddol; dangos dealltwriaeth dda o swyddogaethau allweddol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, ac ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o'r systemau hyn; gwerthuso’n feirniadol a chynnig dadansoddiad cymharol.
Cyflwyniad Llafar Dangos dealltwriaeth feirniadol o batrymau trosedd ac ymagwedd soffistigedig tuag at ystadegau troseddol; rhoi cyfrif o'r broses cyfiawnder troseddol sy'n cynnwys gwerthusiad beirniadol sylweddol; dangos dealltwriaeth dda o swyddogaethau allweddol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, ac ymgymryd â gwerthusiad beirniadol o'r systemau hyn; dangos gwerthfawrogiad beirniadol o oblygiadau rhagfarn gynhenid y system cyfiawnder troseddol; cynnig dadansoddi a gwerthusiad grymus o faterion cyfreithiol, cymdeithasol a pholisi pwysig mewn perthynas â meysydd penodol o gyfraith droseddol a chyfiawnder troseddol.
Learning Outcomes
- Egluro'r ffordd y mae asiantaethau cyfiawnder troseddol yn ymateb i newid mewn trosedd, blaenoriaethau gwleidyddol a pholisiau .
- Gallu dadansoddi'n feirniadol sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn dangos tuedd yn erbyn troseddau, troseddwyr a grwpiau cymdeithasol penodol.
- Gallu i werthuso'n feirniadol a chymhwyso modelau cyfiawnder troseddol allweddol.
- Trafod dealltwriaeth fanwl o bwerau, cyfrifoldebau a strwythurau atebolrwydd y prif asiantaethau cyfiawnder troseddol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad 2, 500 o eiriau
Weighting
50%
Due date
26/04/2024
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad Llafar - 20 munud
Weighting
50%
Due date
12/03/2024