Module XAC-2030:
Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu
Cynhwysiant ac Anghenion Dysgu 2023-24
XAC-2030
2023-24
School Of Educational Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Clive Underwood
Overview
Mae'r modiwl yn cynnwys:
- Cyflwyniad i'r cysyniadau a'r derminoleg a ddefnyddir ym maes cynhwysiant, addysg gynhwysol ac ADY.
- Hanes cynhwysiant ac addysg gynhwysol
- Archwiliad o'r system ADY mewn ysgolion yng Nghymru a thu hwnt
- Archwiliad a gwerthusiad o wahanol fathau o ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
- Asesiad o ddulliau amlasiantaethol o gynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol
Assessment Strategy
-threshold -(D) Gwybodaeth a dealltwriaeth boddhaol o’r prif gysyniadau yn ymwneud ag ‘anghenion addysgol arbennig’ ac ‘addysg gynhwysol’; y gallu i adfyfyrio ar bolisiau, trefniadau a gweithdrefnau tu fewn a thu allan i’r ysgol yn sgil gwybodaeth derbyniol o’r gofynion statudol a dulliau o weithredu partneriaethau mewn ysgolion ac asiantaethau.
-good -(B) Gwybodaeth a dealltwriaeth da o’r prif gysyniadau yn ymwneud ag ‘anghenion addysgol arbennig’ ac ‘addysg gynhwysol’; y gallu i adfyfyrio’n feirniadol ar bolisiau, trefniadau a gweithdrefnau tu fewn a thu allan i’r ysgol yn sgil gwybodaeth arwyddocaol o’r gofynion statudol a dulliau o weithredu partneriaethau mewn ysgolion ac asiantaethau.
-excellent -(A) Gwybodaeth a dealltwriaeth cynheysfawr o’r prif gysyniadau yn ymwneud ag ‘anghenion addysgol arbennig’ ac ‘addysg gynhwysol’; y gallu i adfyfyrio’n feirniadol mewn dyfnder ar bolisiau, trefniadau a gweithdrefnau tu fewn a thu allan i’r ysgol yn sgil gwybodaeth cynhwysfawr o’r gofynion statudol a dulliau o weithredu partneriaethau mewn ysgolion ac asiantaethau.
Learning Outcomes
- Adolygu’n feirniadol ystod o astudiaethau achos sy’n gysylltiedig â darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r broses gynhwysol.
- Arddangos dealltwriaeth beirniadol o gysyniadau ac egwyddorion cyfoes ym maes Anghenion Dysgu Ychwanegol a gwerthuso sut mae'r rhain yn berthnasol i bolisi ac ymarfer mewn perthynas â darpariaeth gynhwysol i gyflawni anghenion plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol;
- Arddangos dealltwriaeth beirniadol o natur a phwrpas sefydliadau, swyddogaeth oedolion, mewn cefnogi anghenion y plant a’r bobl ifanc.
- Arddangos dealltwriaeth cynhywsfawr o gyflyrau Anghenion Dysgu Ychwanegol cyffredin a’u diffiniadau a gwerthuso effaith gwahanol strategaeth a dulliau addysgol wrth gwrdd ag anghenion a hawliau unigolyn;
- Canfod a gwerthuso swyddogaethau gweithwyr proffesiynol o sawl asiantaeth wrth gefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, er mwyn cael mynediad at addysg gynhwysol, gwasanaethau a chymdeithas;
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Dadansoddiad ysgrifenedig o'r astudiaeth achos a ddewiswyd
Weighting
50%
Due date
15/11/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Traethawd Beirniadol; Dadansoddi a myfyrio ar ddull cydweithredol o gwrdd ag ADY.
Weighting
50%
Due date
10/01/2024