Module CCB-4403:
Ymdrin a'ch pwnc drwy'r Gymrae
Ymdrin â'ch Pwnc drwy'r Gymraeg 2023-24
CCB-4403
2023-24
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Philip Davies
Overview
Byddwn yn edrych yn fanwl ar gyweiriau iaith ac egwyddorion Cymraeg Clir a bydd cyfle i'r myfyrwyr arbrofi ac ysgrifennu darnau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd yng nghyd-destun eu meysydd ymchwil.
Byddwn yn rhoi arweiniad ar sut i ddod o hyd i dermau penodol gwahanol bynciau a sut i ddefnyddio ystod o'r arfau iaith cyfrifiadurol sydd ar gael. Bydd cyfle i ymarfer sgiliau a fydd o ddefnydd i'r myfyrwyr wrth ymdrin â'u meysydd ymchwil yn ysgrifenedig, yn benodol felly, trawsieithu a chyfieithu. Edrychir ar elfennau ieithyddol cyffredinol sy'n peri problemau wrth ymdrin â phwnc drwy gyfrwng y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) ond yn bennaf canolbwyntir ar wallau personol ac anghenion yr unigolyn. Rhan bwysig o'r modiwl yw'r gwaith paratoi tuag at y cyflwyniad llafar, lle ceir cyfle i gyflwyno elfen benodol ar eu maes academaidd o flaen cynulleidfa o ddarlithwyr a chyd-fyfyrwyr.
Elfen bwysig o'r modiwl 20 credyd hwn yw'r ffolio o waith pynciol y bydd pob myfyriwr unigol yn ei greu. Bydd y myfyriwr yn cael adborth cyson ar y gwaith hwn, a chyfleoedd i'w drafod gyda'r tiwtor. Bydd y ffolio'n ffordd o ddatblygu ei sgiliau iaith a'i fynegiant academaidd dros gyfnod, tra'n creu casgliad o waith pynciol defnyddiol ar yr un pryd.
Assessment Strategy
-threshold --(C) Peth meistrolaeth ar gywirdeb wrth siarad y Gymraeg yng nghyd-destun maes eu hymchwil - Peth meistrolaeth ar gywirdeb wrth ysgrifennu'r Gymraeg yng nghyd-destun maes eu hymchwil - Peth meistrolaeth ar gyweiriau llafar y Gymraeg wrth gyflwyno yng nghyd-destun maes eu hymchwil - Peth meistrolaeth ar gyweiriau ysgrifenedig y Gymraeg yng nghyd-destun maes eu hymchwil - Peth dealltwriaeth o rai dulliau o loywi iaith gan gynnwys offer cyfrifiadurol - Peth meistrolaeth ar sgiliau ysgrifennu, trawsieithu a chyfieithu deunydd pynciol - Peth adnabyddiaeth o wahanol gyweiriau'r Gymraeg - Peth meistrolaeth ar egwyddorion Cymraeg Clir
-good -- (B) Meistrolaeth dda ar gywirdeb wrth siarad y Gymraeg yng nghyd-destun maes eu hymchwil- Meistrolaeth dda ar gywirdeb wrth ysgrifennu'r Gymraeg yng nghyd-destun maes eu hymchwil- Meistrolaeth dda ar gyweiriau llafar y Gymraeg wrth gyflwyno yng nghyd-destun maes eu hymchwil- Meistrolaeth dda ar gyweiriau ysgrifenedig y Gymraeg yng nghyd-destun maes eu hymchwil- Dealltwriaeth dda o rai dulliau o loywi iaith gan gynnwys offer cyfrifiadurol- Meistrolaeth dda ar sgiliau ysgrifennu, trawsieithu a chyfieithu deunydd pynciol- Adnabyddiaeth dda o wahanol gyweiriau'r Gymraeg- Meistrolaeth dda ar egwyddorion Cymraeg Clir
-excellent -- (A) Meistrolaeth ardderchog ar gywirdeb wrth siarad y Gymraeg yng nghyd-destun maes eu hymchwil- Meistrolaeth ardderchog ar gywirdeb wrth ysgrifennu'r Gymraeg yng nghyd-destun maes eu hymchwil- Meistrolaeth ardderchog ar gyweiriau llafar y Gymraeg wrth gyflwyno yng nghyd-destun maes eu hymchwil- Meistrolaeth ardderchog ar gyweiriau ysgrifenedig y Gymraeg yng nghyd-destun maes eu hymchwil- Dealltwriaeth ardderchog o rai dulliau o loywi iaith gan gynnwys offer cyfrifiadurol- Meistrolaeth ardderchog ar sgiliau ysgrifennu, trawsieithu a chyfieithu deunydd pynciol- Adnabyddiaeth ardderchog o wahanol gyweiriau'r Gymraeg- Meistrolaeth ardderchog ar egwyddorion Cymraeg Clir
Learning Outcomes
- Adnabod, deall a dadansoddi eu gwendidau iaith personol a thrwy wybod sut i ddefnyddio gwahanol gymhorthion iaith, datblygu eu gallu i gywiro eu gwallau yn annibynnol
- Cyflwyno gwybodaeth bynciol yn hyderus yn y Gymraeg a’i thrafod yn feirniadol gan ddefnyddio’r termau cywir, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Dadansoddi anghenion gwahanol gynulleidfaoedd a datblygu hyfedredd i gymhwyso deunydd o’u maes academaidd i’r cynulleidfaoedd hynny yn ôl yr angen gan ddefnyddio gwahanol gyweiriau’r Gymraeg
- Defnyddio’r sgiliau iaith cymhwysol sydd eu hangen ar gyfer ymchwil ysgolheigaidd wrth ymdrin â’u pwnc yn y Gymraeg, gan ymgorffori egwyddorion Cymraeg Clir lle bo hynny’n briodol
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad Datblygiad Personol
Weighting
15%
Due date
20/03/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Sgiliau Iaith Cymhwysol - crynhoi, trawsieithu a chyfieithu deunydd pynciol
Weighting
15%
Due date
27/02/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Ysgrifennu mewn dau gywair gwahanol
Weighting
15%
Due date
16/01/2023
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad llafar
Weighting
30%
Due date
12/12/2022
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Ffolio o Waith Pynciol
Weighting
25%
Due date
17/04/2023