Module ICC-4002:
Prosiect Tim MEng
Prosiect Tîm MEng 2022-23
ICC-4002
2022-23
School Of Computer Science And Electronic Engineering
Module - Semester 1 & 2
40 credits
Module Organiser:
Iestyn Pierce
Overview
Bydd y cynnwys yn amrywio yn ôl grŵp myfyrwyr a'r project; fodd bynnag, mae cynnwys dangosol yn cynnwys:
• Casglu gwybodaeth am ofynion gan ddefnyddiwr terfynol/cwsmer. • Dyluniad a manyleb cynnyrch i fodloni'r gofynion hynny. • Adeiladu prototeipiau. • Cyfathrebu gwybodaeth yn ffurfiol am y project, y canlyniadau a'r gwersi a ddysgwyd.
Assessment Strategy
-threshold -Cyfateb i 50%. Defnyddio meysydd theori neu wybodaeth allweddol i fodloni deilliannau dysgu'r modiwl. Gallu llunio ateb priodol i ddatrys tasgau a chwestiynau'n gywir. Gallu nodi agweddau unigol, ond ddim yn ymwybodol o'r cysylltiadau rhyngddynt a'r cyd-destunau ehangach. Gallu deall canlyniadau, ond mae diffyg strwythur a/neu gydlyniant.
-good -Cyfateb i'r ystod 60% -69%. Gallu dadansoddi tasg neu broblem i benderfynu pa agweddau ar theori a gwybodaeth i'w defnyddio. Mae'r atebion o ansawdd ymarferol, yn dangos dealltwriaeth o egwyddorion sylfaenol. Gallu cysylltu prif themâu yn briodol ond efallai ddim yn gallu ymestyn hyn i agweddau unigol. Mae canlyniadau'n hawdd eu deall, gyda strwythur priodol ond efallai heb soffistigeiddrwydd.
-excellent -Cyfateb i'r ystod 70%+. Casglu ynghyd feysydd gwybodaeth a theori perthnasol a werthuswyd yn feirniadol i lunio atebion ar lefel broffesiynol i dasgau a chwestiynau a gyflwynir. Gallu croes-gysylltu themâu ac agweddau i ddod i gasgliadau ystyriol. Cyflwyno canlyniadau mewn modd cydlynol, cywir ac effeithlon.
Learning Outcomes
- Cyflwyno adroddiadau clir a manwl a thraethawd hir.
- Defnyddio eu menter eu hunain i gyflawni amcan clir o fewn amser penodol.
- Ymchwilio i feysydd newydd o wybodaeth pwnc, trefnu data a datrys problemau newydd.
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad Grŵp
Weighting
20%
Assessment type
Summative
Description
Traethawd Grŵp
Weighting
60%
Assessment type
Summative
Description
Adroddiad Unigol
Weighting
20%