
Module SCS-2213:
Pwer, Cyfalaf a Chymdeithas
Module Facts
Run by School of History, Philosophy and Social Sciences
20.000 Credits or 10.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Dr Cynog Prys
Overall aims and purpose
Canolbwynt y modiwl hwn yw dadansoddiad rhai o weithiau damcaniaethol cymdeithasol y cyfnod modern, gan ganolbwyntio ar waith Antonio Gramsci, Yr Ysgol Frankfurt, a Pierre Bourdieu. Bydd y modiwl hwn yn cychwyn drwy gynnig trosolwg o brif ddamcaniaethau o fewn cymdeithaseg, gan gynnwys gwaith y damcaniaethwyr clasurol, sef Marx, Durkheim a Weber. Yna, bydd y modiwl hwn yn astudio datblygiad y traddodiad Marcsaidd gan edrych ar rai o’u prif gysyniadau a’u damcaniaethau pwysicaf y damcaniaethwyr hyn. Ystyrir sut mae theorïau hyn yn berthnasol yn ein cymdeithas gyfoes, gan dalu sylw arbennig i’r drafodaeth ynghylch pŵer, tra-arglwyddiaeth a chyfalaf o fewn cymdeithas gyfoes. Datblygir y sgiliau astudio angenrheidiol i allu crynhoi dadleuon a gwybodaeth ynghylch syniadau'r damcaniaethwyr, a chynnig beirniadaeth o’u gwaith.
Course content
Diben y modiwl hwn yw astudio’r consensws a’r gwrthdaro o fewn cymdeithas, gan gwestiynu’r modd y mae grymoedd cymdeithasol yn dylanwadu ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn codi cwestiynau ynglŷn â sut mae normau a gwerthoedd cymdeithasol yn cael eu cyfreithloni, gan gwestiynu buddiannau pwy sy’n cael ei gynrychioli gan y gwerthoedd hyn. Byddwn felly yn trafod y berthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas, gan gloriannu’r dadleuon rhwng galluedd yr unigolyn a dylanwad strwythurau cymdeithas ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn gorffen drwy ystyried enghreifftiau o synthesis damcaniaethol rhwng y ddau safbwynt.
Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r myfyrwyr i rai o ddamcaniaethwyr cymdeithasegol y cyfnod modern, gan adeiladau ar ei dealltwriaeth o ddamcaniaethau gymdeithasegol glasurol. Cychwynnir drwy astudio’r modd y datblygodd y traddodiad Marcsaidd gan dalu sylw penodol at gyfraniad Antonio Gramsci. Wrth drafod gwaith Gramsci byddwn yn canolbwyntio ar ei gysyniad o hegemoni, rheolaeth gymdeithasol a chydsyniad.
Yna byddwn yn astudio damcaniaeth gwrthdaro, a chyfraniad meddylwyr yr Ysgol Frankfurt (e.e. Marcuse, Adorno, Hokenhimer, a Habermas). Fel Gramsci, roedd y damcaniaethwyr hyn yn ysgrifennu yn y traddodiad Marcsaidd gyda diddordeb mewn pŵer a rheolaeth gymdeithasol. Astudiwn y modd yr oedd y damcaniaethwyr amrywiol o fewn yr YF yn dehongli’r modd yr oedd y system yn tra-arglwyddi dros unigolion, yn gorchymyn, manipiwleiddio, dallu a thwyllo unigolion i gynnal ac atgynhyrchu strwythur cymdeithas.
Bydd y modiwl yn cloi drwy ystyried cyfraniad Pierre Bourdieu a’i ymgais i gynhyrchu synthesis o alluedd yr unigolyn a dylanwad strwythur cymdeithas. Trafodir cysyniadau Bourdieu o habitus, cyfalaf, a meysydd, gan drafod y modd cudd y mae Bourdieu yn gweld pŵer yn dylanwadu ar ein bywydau beunyddiol. Byddwn hefyd yn ystyried defnydd ffeministiaid o gysyniadau Bourdieu o ran theory ymgorfforiad.
Assessment Criteria
threshold
Er mwyn llwyddo yn y modiwl hwn, bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflawni'r deilliannau ar y lefel sylfaenol. H.y. bydd gofyn iddynt ddangos ymwybyddiaeth o brif weithiau theoretaidd Gramsci, Yr Ysgol Frankfurt a Bourdieu, a'r prif gysyniadau perthnasol, bod yn ymwybodol o'r dylanwadau a fu ar eu syniadau, a'r modd y gellir cymhwyso eu waith at y sefyllfa gyfoes.
excellent
Bydd myfyrwyr rhagorol yn gallu defnyddio'r wybodaeth yn ddadansoddol a beirniadol, ac yn gallu cymhwyso'r theorïau at sefyllfaoedd cymdeithasol penodol.
C- to C+
Bydd myfyrwyr da yn gallu dangos dealltwriaeth a barn aeddfed, yn gallu gweld y cyswllt rhwng theorïau ac ymarfer cymdeithasol, ac yn gallu cyfeirio at weithiau ac enghreifftiau perthnasol yng ngweithiau Gramsci, Yr Ysgol Frankfurt a Bourdieu.
Learning outcomes
-
Cyflwyno syniadau’r damcaniaethwyr hyn mewn modd clir a rhesymegol
-
Dadansoddi'n cysyniadau a damcaniaethau cymdeithasegol cyfoes e.e. Gramsci, Yr Ysgol Frankfurt a Bourdieu.
-
Datblygu eu dealltwriaeth o theori gymdeithasegol glasurol
-
Dangos cynnydd mewn dealltwriaeth o dystiolaeth a dadleuon cymhleth trwy astudiaeth annibynnol
-
Gwerthuso'r dylanwadau ar gysyniadau’r damcaniaethwyr cymdeithasegol dan sylw.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
ESSAY | Traethawd Pwer, Cyfalaf a Chymdeithas | 50.00 | |
EXAM | Arholiad Pwer, Cyfalaf a Chymdeiths | 50.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Seminar | Byddwn yn cyfarfod am 2 awr bob wythnos ar gyfer darlith a seminar. Bydd gwaith darllen yn cael ei osod ar gyfer pob seminar ac mae disgwyl i bawb ddarllen y deunydd a pharatoi yn drylwyr ar gyfer trafod y gwaith. |
12 |
Lecture | Byddwn yn cyfarfod am 2 awr bob wythnos ar gyfer darlith a seminar. Bydd gwaith darllen yn cael ei osod ar gyfer pob seminar ac mae disgwyl i bawb ddarllen y deunydd a pharatoi yn drylwyr ar gyfer trafod y gwaith. |
12 |
Private study | Bydd gwaith darllen yn cael ei ddarparu bob wythnos. Yn ogystal ag hynny, mae disgwyl i fyfyrwyr ymgymryd a gwaith darllen annibynnol. |
176 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Resources
Talis Reading list
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/scs-2213.htmlReading list
Apperouth, S. Edles, L. (2011) Classical and Contemporary Socialogical Theory, Text and Readings, 2ed, Sage: Los Angeles.
Bottomore, T. (2002) The Frankfurt School and its critics. London: Routledge.
Bourdieu, P. & J-C Passeron (1990) Reproduction in education, society and culture, Cyfieithiad o’r Ffrangeg gan Richard Nice, London:Sage.
Elliot, A. (2008) Contemporary Social Theory: An introduction, London: Routledge.
Jenkins, R. (2002) Pierre Bourdieu. London: Routledge.
Johnson, R.(Gol). (1993) The field of cultural production: essays on art and literature, New York: Columbia University Press.
Morris-Jones, H. (1984) Durkheim, Cyfres y Meddwl Modern. Dinbych: Gwasg Gee.
Ransome, P (2010) Social Theory for Beginners. Bristol: Policy Press.
Roberts, E (1982) Weber, Cyfres y Meddwl Modern. Dinbych: Gwasg Gee.
Shusterman, R. (1999) Bourdieu: a critical reader. Oxford: Malden, Mass: Blackwell Publishers.
Stones, R. (Gol) (2008) Key Sociological Thinkers. London: Palgrave
Swartz, D.L. & V.L.Zolberg (2004) After Bourdieu: influence, critique, elaboration, Netherlands:Kluwer Academic Publishers.
Thompson, J.B. (1991) Language and symbolic power, Cyfieithiad gan Gino Raymond a Matthew Adamson, Cambridge :Polity.
Webb, J., T. Schirato & G.Danaher (2002) Understanding Bourdieu, London: Sage.
Williams, H. (1980) Marx, Cyfres y Meddwl Modern. Dinbych: Gwasg Gee.
Courses including this module
Compulsory in courses:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 2 (BA/APIC)
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 2 (BA/CCCJ)
- LL3M: BA Cymdeithaseg & Health and Social Care year 2 (BA/CHSC)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 2 (BA/HSW)
- L401: Polisi Cymdeithasol year 2 (BA/PC)
- L3LK: BA Cymd gyda Phol Cymd year 2 (BA/SSPW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- LVH1: BA Cymdeithaseg/Hanes Cymru year 2 (BA/SWWH)
- L3L5: MSocSci Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol year 2 (MSOCSCI/CYMD)
Optional in courses:
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- M93B: BA Criminology & Criminal Just (4yr with Incorp Foundation) year 2 (BA/CCJ1)
- M931: BA Criminology & Criminal Justice with International Exp year 2 (BA/CJIE)
- M930: BA Criminology & Criminal Justice year 2 (BA/CRIM)
- MR95: BA Criminology&Criml Just/Italian year 2 (BA/CRIT)
- MC98: BA Criminology/Psychology year 2 (BA/CRP)
- MR94: BA Criminology/Spanish year 2 (BA/CRSP)
- M3Q9: BA English Literature and Criminology and Criminal Justice year 2 (BA/ENC)
- MR91: BA French/Criminology&Crim'l Just year 2 (BA/FRCR)
- MR92: BA Criminology&CrimJustice/German year 2 (BA/GCR)
- MVX1: BA History/Criminology year 2 (BA/HCR)
- LM52: BA Health & Social Care / Criminology & Criminal Justice year 2 (BA/HSCCCJ)
- LL5K: Polisi Cymdeithasol & Health and Social Care year 2 (BA/PCHSC)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 2 (BA/SPWH)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LVL1: BA Pol Cymd/Han Cymru year 2 (BA/SPWWH)
- M932: MSocSci Criminology & Criminal Justice year 2 (MSOCSCI/CCJ)