Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Myfyrwyr Presennol
  • Staff
  • Swyddi
  • Covid-19
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Medi 2020

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

    • Opsiynau Astudio
      • Hafan Astudio
      • Pam Astudio ym Mangor?
      • Astudiaethau Israddedig
      • Astudiaethau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Cyrsiau Rhan-amser
      • Cyrsiau sy’n Cychwyn Fis Ionawr
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
    • Cyngor Astudio
      • Gwneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais?
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Blas o Fangor
      • Dyddiau Agored ac Ymweliadau Ar-lein
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy

    Dod o hyd i Gwrs

    Archebu Prospectws

    Gwybodaeth Covid-19

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • Bangor a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Teithiau 360, Fideos a Mwy
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid

    Croeso 2021

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn Ysgolion/Colegau Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Porth Ymchwil
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
    • Astudio Ôl-radd a Chyfleoedd Ymchwil
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ysgol Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Rheolaeth a Llywodraethiant y Brifysgol
      • Swyddfa’r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda’r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
      • Swyddi
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
    • Y Brifysgol a’r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Cyllid ar gyfer Cydweithio, Ymchwil a Datblygu ac Arloesi
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ymgynghoriaeth, Arbenigedd a Gwybodaeth Arbenigol
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Lleoliadau Myfyrwyr ac Interniaethau Mewn Busnes a Menter
      • Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
      • Prentisiaethau Gradd
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Cysylltiadau
      • Swyddfa Ymchwil, Arloesi ac Effaith
      • Cysylltwch â Ni
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Applicants
  • Current Students
  • Staff
  • Job Vacancies
  • Covid-19
My country:

Search

Close

Breadcrumb

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn
  • English

Rhannwch y dudalen hon
  • Twitter
  • Facebook
  • LinkedIn

Cyngor i Rieni – Llety

Mae gadael cartref i fynd i'r Brifysgol yn gam mawr ac ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd bydd y rhieni/gwarcheidwaid a'r myfyrwyr yn aml yn profi cymysgedd o emosiynau.

Gan gadw hyn mewn cof rydym yn gweld yn aml ei bod yn fuddiol os yw rhieni a gwarcheidwaid yn gwybod beth y dylai’r myfyrwyr fod yn ei wneud i baratoi ar gyfer dod i’w neuadd breswyl.

Ydi’r myfyriwr wedi gwneud cais i fyw mewn neuadd?

Bydd pob myfyriwr wedi derbyn e-bost yn eu gwahodd i wneud cais i fyw mewn neuadd unwaith y byddant wedi cadarnhau eu bod yn derbyn y cynnig i astudio ym Mangor. Mae hyn yn digwydd fel rheol yn Ebrill neu Mai. Os bydd myfyrwyr yn gwneud cais am lety erbyn y dyddiad cau, ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn rydym yn rhoi sicrwydd y byddwn yn cael ystafell iddynt yn un o neuaddau’r brifysgol.

Os bydd y myfyriwr yn gwneud cais am lety ar ôl y dyddiad cau, peidiwch â phoeni. Fe wnawn ein gorau glas i gael hyd i ystafell iddynt ond efallai y bydd angen iddynt ddeall y bydd rhai o’n neuaddau eisoes yn llawn a gallwn orfod cyfyngu’r dewisiadau fydd ar gael i fyfyrwyr.

Byddwn yn cyfathrebu â’r myfyriwr drwy e-bost yn unig.

Gall rhieni helpu drwy atgoffa’r myfyriwr i edrych ar eu negeseuon e-bost yn ddyddiol a dilyn yr holl gyfarwyddiadau mewn unrhyw e-byst a anfonwn. Mae hyn yn arbennig o bwysig os bydd y myfyriwr yn mynd ar wyliau ar yr adeg bwysig yma.

Mae angen i gynnig ystafell gael ei dderbyn neu ei wrthod yn ffurfiol o fewn 7 niwrnod o ddewis ystafell.

Ydi’r myfyriwr wedi derbyn yr ystafell a gynigiwyd iddo/iddi ac wedi gwneud y rhagdaliad ffioedd?

Cofiwch bydd angen i fyfyrwyr dalu rhagdaliad ffioedd o £300 o fewn 7 niwrnod ar ôl i ystafell gael ei phennu iddynt. Os yw rhieni’n talu’r swm hwn, cofiwch nad blaendal a ddychwelir ydyw – hwn yw’r taliad cyntaf o’r ffioedd. Mae angen i’r myfyriwr hefyd dderbyn eu Cytundeb Preswylio’n ffurfiol ar-lein. Mae hon yn ddogfen gyfreithiol ac mae’n ymrwymo’r myfyriwr i dalu am y llety am y cyfnod preswylio llawn tra bydd yn fyfyriwr. Bydd y Cytundeb Preswylio’n nodi rhif yr ystafell a’r adeilad a bennwyd, ynghyd â’r costau dyledus.

Os yw’r myfyriwr yn byw yn ardal Bangor, anogwch hwy i feddwl yn ofalus cyn cytuno i fyw mewn neuadd. Mae natur gyfreithiol y cytundeb yn golygu nad yw’n bosibl iddynt newid eu meddyliau a dychwelyd i fyw adref unwaith y byddant wedi symud i mewn i neuadd.

Ydi’r myfyriwr wedi gwneud y modiwl Iechyd a Diogelwch gorfodol ar-lein?

Mae hwn yn orfodol ac ni fyddwn yn rhoi’r allwedd i’r myfyriwr oni bai eu bod yn cyflwyno eu Tystysgrif Nôl Allwedd. Gellir argraffu hwn neu ei gadw fel e-fersiwn, ar ffôn neu dabled er enghraifft, ar ôl gorffen y Modiwl Iechyd a Diogelwch.

Ydi’r myfyriwr wedi sefydlu eu cytundeb talu ar gyfer gweddill eu ffioedd neuadd?

Bydd myfyrwyr yn gwybod beth fydd cyfanswm cost eu llety o’r manylion ar eu Cytundeb Preswylio a byddant wedi gwneud rhagdaliad o £300 a thrwy hynny leihau’r gweddill sy’n ddyledus. Dylid talu’r gweddill mewn rhandaliadau drwy gytundeb epay. Mae gwybodaeth lawn ar wefan y Swyddfa Gyllid sut i sefydlu’r cytundeb epay hwn a hefyd yn y Dyddiadur Wythnos Groeso y bydd y myfyriwr eisoes wedi’i dderbyn ar ôl iddynt gael eu derbyn gan y Brifysgol yn Awst/Medi. Dylid sefydlu’r cytundeb epay cyn i’r myfyriwr gyrraedd y Brifysgol. Ar y llaw arall gellir talu’r ffioedd neuadd yn llawn pan fydd y myfyriwr yn cyrraedd, neu cyn hynny.

Cyrraedd Bangor

Sylwer bod myfyrwyr yn cyrraedd Bangor dros 2 ddiwrnod. Gweler y dudalen yma wefan Wythnos Groeso i weld pa ddiwrnod y disgwylir i’ch mab neu ferch gyrraedd. Mae yna fapiau a chyfeiriadau hefyd ar gael ar y dudalen hon.

Cymerwch gam yn ôl

Anogwch eich mab neu ferch i fod yn annibynnol. Helpwch hwy i ddatblygu eu hunanhyder a bod yn fwy blaengar – yn fuan bydd angen iddynt drefnu pethau eu hunain a gwneud eu penderfyniadau eu hunain. Os oes ganddynt ymholiadau ynghylch eu contract llety, anogwch hwy i’n ffonio ni eu hunain. Mae’r cytundeb rhwng Swyddfa Neuaddau’r Brifysgol a’ch mab neu ferch, ac fel rheol dim ond efo nhw eu hunain y gallwn drafod y manylion, waeth pwy sy’n talu’r bil!
Mae’n syniad da gofyn iddynt ddweud wrthych chi a’u holl ffrindiau a pherthnasau beth yw eu cyfeiriad newydd. Pe baech chi’n ein ffonio ni, mae arna i ofn na allwn ddweud wrthych beth yw rhif eu hystafell neu enw eu neuadd am resymau gwarchod data.

Paratowch hwy at fyw’n annibynnol

Gwnewch yn siŵr y gall eich mab neu ferch lanhau eu hystafell wely a’u hystafell ymolchi ensuite (os yw’n berthnasol), trin arian ar gyfer prynu bwyd a chostau wythnosol eraill, coginio ychydig o brydau syml a glanhau’r gegin ar ôl gwneud bwyd.
Cofiwch eu hatgoffa i nodi pryd y bydd eu taliadau ffioedd neuadd yn cael eu cymryd o’u cyfrif banc ac i holi yn y Swyddfa Neuaddau os na wneir y taliad am ryw reswm.

Ar ôl cyrraedd

Cofiwch gadw mewn cysylltiad! Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn hiraethu am gartref rywbryd neu’i gilydd ac mae’n bwysig eu bod yn gwybod eich bod yno iddynt.

Os ydynt yn cael trafferth i ymgartrefu, neu broblemau gyda phreswylwyr eraill, anogwch hwy i gysylltu â’r Tîm Wardeniaid sydd yno i helpu. Mae yna lawer o Wasanaethau Cefnogi eraill yn y Brifysgol a all helpu.

Problemau gyda’u hystafell

Rydym yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod yr holl ystafelloedd yn barod pan fydd myfyrwyr yn cyrraedd ond, yn anochel, gyda thua 2,960 o ystafelloedd, efallai y bydd rhai materion cynnal a chadw sydd angen sylw. Anogwch eich mab neu ferch i alw yn y Swyddfa Neuaddau neu i’n ffonio neu anfon e-bost fel y gallwn ddelio ag unrhyw faterion cynnal a chadw. Trwy roi gwybod am y mater eu hunain, maent yn rhoi caniatâd i ni fynd i mewn i’w hystafell a gwneud y gwaith angenrheidiol. Ni allwn wneud hyn os bydd rhieni’n ffonio ar ran y myfyriwr!

Llawlyfr Neuaddau

Bydd pob preswylydd yn cael mynediad at y llawlyfr gwybodaeth ar-lein drwy ddefnyddio'r Porth yma. Rydym yn gwybod bod angen ymdopi â thoreth o wybodaeth wrth ddechrau mewn prifysgol, ond bydd yr ateb i lawer o gwestiynau i’w cael yn y llawlyfr.

Meddwl gadael?

Rydym yn gobeithio y bydd pob myfyriwr yn hapus a bodlon wrth fyw ac astudio ym Mhrifysgol Bangor. Yn anochel, fodd bynnag, bob blwyddyn mae ychydig o fyfyrwyr yn penderfynu nad y brifysgol ydi’r lle iddynt hwy ac yn dymuno gadael. Mae yna brosesau ffurfiol y mae’n rhaid eu dilyn wrth adael y brifysgol (linc -http://www.bangor.ac.uk) a rhaid cyflawni’r rhain cyn i’r myfyriwr wneud trefniadau i derfynu eu Cytundeb Preswylio. Wrth gwrs, mae yna gosbau’n gysylltiedig â’r terfynu hwn. Gall rhieni helpu drwy sicrhau bod y myfyriwr wedi darllen a deall y wybodaeth ar ein gwefan ynghylch gadael neuadd breswyl). Os bydd myfyriwr yn gadael ei ystafell heb wneud y trefniadau ffurfiol hyn, byddwn yn dal i godi tâl arnynt am y flwyddyn gyfan.

Angen mwy o wybodaeth?

Mae ein gwefan yn llawn o fanylion am fyw yn y neuaddau a gwybodaeth arall am gostau a dyddiadau contractau. Ein rhif ffôn yw 01248 382667 os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill. Fodd bynnag, cofiwch oherwydd rhesymau gwarchod data ni allwn ddatgelu unrhyw wybodaeth benodol wrthych am eich mab neu ferch neu’r contract y maent wedi’i gwneud gyda ni.

Gwefan Llety’r Brifysgol

Hafan

  • Astudio ym Mangor
    • Hafan
    • Pam astudio ym Mangor?
    • Astudio fel myfyriwr Israddedig
      • Cymorth Astudio
      • Fframwaith y cwrs
      • Eich tiwtor personol
      • Cynllun Arweinwyr Cyfoed
      • Astudio tramor
      • Paratoi ar gyfer y Brifysgol
    • Astudio fel myfyriwr Ôl-raddedig
    • Myfyrwyr Hŷn
      • Cyngor a chefnogaeth
      • Llety
      • Adnoddau a Chyfleusterau
      • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
      • Addysg a gofal plant
      • Cysylltwch â ni
    • Gwasanaethau TG
    • Llyfrgell ac Archifau
    • Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
    • Cyrsiau
    • Cyllid Myfyrwyr
    • Gwsanaethau Myfyrwyr
    • Cyngor i Rieni a Gwarcheidwaid
      • Pam Bangor?
      • Y broses o wneud cais
      • Ymweld â ni
      • Dyddiadau Allweddol
      • Ymgartrefu
      • Llety
      • Cefnogaeth, Gyrfaoedd & Cyflogadwyedd
      • Cyllid
      • Awgrymiadau
    • Cysylltu
      • Archebu Prospectws
      • Diwrnodau Agored
Hafan

Dilynwch Ni

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
  • Youtube
  • LinkedIn

Prifysgol Bangor

Bangor, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

marchnata@bangor.ac.uk

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol Bangor
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol Bangor yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol Bangor