Cefnogaeth
Mae cefnogaeth i fyfyrwyr yn flaenoriaeth uchel ym Mangor, a dyma rai o’r gwasanaethau a ddarperir:
- Gwasanaeth ymgynghori sydd am ddim ac yn gyfrinachol
- Bydd Tiwtor Personol ar gael yn yr ysgol academaidd
- Bydd Arweinwyr Cyfoed yn creosawu myfyrwyr newydd yn ystod yr wythnos gyntaf ac yn ateb unrhyw gwestiynau/pryderon
- Wardeiniaid Neuaddau ar ddyletswydd 24 awr
- Gwasanaeth Cynghori
- Cynghorwr Iechyd Meddwl
- Canolfan Iechyd Myfyrwyr
- Cyngor ar dynnu’n ôl o gyrsiau / trosglwyddo i gyrsiau eraill
- Cynghorwr Lles Myfyrwyr Rhyngwladol
- Uned Cymorth Ariannol
- Gwasanaeth Tai Myfyrwyr
- Gwasanaeth Cefnogi Anableddau
- Tîm Dyslecsia
- Canolfan Access (i asesu gofynion cefnogaeth astudio myfyrwyr anabl)
- Canolfan Cefnogaeth Astudio
- Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd
- Gwasanaeth Caplaniaeth
- Cymorth Academaidd a Lles Undeb y Myfyrwyr
Ceir gwybodaeth am y gwasanaethau cefnogi hyn yn fras yn y pecyn Cofrestru Myfyrwyr a anfonir at fyfyrwyr newydd cyn iddynt gyrraedd, a cheir gwybodaeth fanylach yn yr Arweinlyfr Myfyrwyr sy’n cael ei e-bostio at holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau a chyfleusterau hefyd ar wefan Gwasanaethau Myfyrwyr.
Mae llawer o’r gwasanaethau uchod yn cael eu cyd-drefnu gan Wasanaethau Myfyrwyr, sydd wedi’i leoli ar lawr 1 a 2 Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg. Mae’r gwasanaeth ar agor drwy’r flwyddyn, a dylai myfyrwyr newydd sydd ag unrhyw bryderon neu broblemau gysylltu â nhw drwy ffonio 01248 382034 neu ebostio: gwasanaethaumyfyrwyr@bangor.ac.uk
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Gall y Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd helpu myfyrwyr fagu a datblygu’r sgiliau fydd yn bwysig iddynt yn nes ymlaen mewn bywyd, yn enwedig sgiliau cyflogadwyedd. Mae ystod o gyfleoedd gweithio a lleoliadau gwaith yn cael eu darparu.
Mae llawer o fyfyrwyr yn awyddus i ddod o hyd i waith rhan-amser wrth astudio yn y Brifysgol ac, ym Mangor, mae’r Rhagolygon Bangor, sydd wedi’i leoli ar ail lawr Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, yn eu cynorthwyo i ddod o hyd i waith rhan-amser, dros dro neu yn ystod y gwyliau.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.
Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.