Ymweld â ni
Y ffordd orau o gael blas o Fangor, yw dod yma i weld dros eich hun. Ein Diwrnodau Agored yw’r cyfle perffaith i wneud hynny!
Diwrnodau Agored
Yn ystod ein Diwrnod Agored cewch y cyfle i gyfarfod â staff a myfyrwyr presennol, dod i wybod mwy am y cyrsiau, cael golwg o amgylch y Brifysgol a neuaddau preswyl. Cewch hefyd glywed mwy am fywyd myfyrwyr ym Mangor, pa lety yr ydym yn ei gynnig a bydd ein Swyddog Cefnogaeth Ariannol yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gyllid myfyrwyr.
Cynhelir pedwar Diwrnod Agored yn ystod y flwyddyn, ym yr Haf a'r Hydref. Cyn gwneud cais am le ym Mangor, mae’n syniad da i ddod i ymweld â ni ar un o’r Diwrnodau Agored hyn i ddod i wybod mwy am y Brifysgol.
Dyddiau Ymweld i Ymgeiswyr UCAS
Unwaith mae eich mab neu ferch wedi gwneud cais i Fangor, byddant yn derbyn gwahoddiad i ddod i un o Ddiwrnodau Ymweld UCAS, sydd yn cael eu cynnal gan yr Ysgol Academaidd. Mae’r Diwrnod Agored UCAS yn rhoi cyfle arall i gael gweld y Brifysgol a chwrdd ag aelodau staff a myfyrwyr.
Os nad ydy dyddiadau’r Diwrnodau Agored yn gyfleus i chi, cysylltwch â ni er mwyn trefnu ymweliad.
Ewch i’n gwefan Diwrnod Agored i weld fideos a lluniau i gael o’r hyn sy’n digwydd ar Ddiwrnod Agored. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf.