Hydref 2017

SuLlMaMeIGSa
1234567
891011121314
15161718192021
22232425262728
293031

Dathlu Llwyddiannau Eisteddfodol

Lleoliad:
PL2 Canolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio
Amser:
Dydd Mercher 25 Hydref 2017, 19:00–20:00
Cyflwynydd:
Ysgol y Gymraeg

Nos Fercher, 25 Hydref 2017 am 7.00 yn Narlithfa 2 (PL2) Pontio trefnir noson gan Ysgol y Gymraeg i ddathlu llwyddiant y Prif Lenor Sonia Edwards a’r Prifardd Gwion Hallam yn Eisteddfod Genedlaethol Môn fis Awst eleni.

Bydd Sonia, enillydd y Fedal Ryddiaith, yn cael ei holi gan un o gyn-enillwyr y Fedal, Yr Athro Angharad Price, a Gwion, enillydd y Goron, yn cael ei holi gan un o gyn-enillwyr y Goron, Yr Athro Jason Walford Davies.

Mae mynediad am ddim ac estynnir croeso cynnes i bawb.