March 2017

SuMTuWThFSa
1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293031

Prifysgol Bangor yn dathlu trichanmlwyddiant geni Pantycelyn!

Location:
Darlithfa PL2, Pontio
Time:
Wednesday 1 March 2017, 18:00–19:30
Presenter:
Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Prifysgol Bangor
Contact:
Iwan Davies
01248 382083
More information:
https://www.pontio.co.uk/Online/default.asp?doWork%3A%3AWScontent%3A%3AloadArticle=Load&BOparam%3A%3AWScontent%3A%3AloadArticle%3A%3Aarticle_id=FC41CC41-E6F2-4028-9945-027FC6974754

Mae’n gywilydd nad oes fwy o sylw i drichanmlwyddiant geni ein prif emynydd, William Williams, Pantycelyn, yn ôl sawl un, Derec Llwyd Morgan a Simon Brooks yn eu plith. Dewch i wneud iawn am hynny yn ystod Darlith Dygwyl Dewi Ysgol y Gymraeg a’r Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Prifysgol Bangor!

I ddathlu Gŵyl Ddewi bydd Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd Prifysgol Bangor yn croesawu'r Athro Densil Morgan yn ôl i Fangor i draddodi darlith ar astudiaeth ddadleuol Saunders Lewis o brif emynydd Cymru, William Williams Pantycelyn, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 1927. I gyd-fynd ag argraffiad newydd o'r llyfr gyda rhagair helaeth gan Densil Morgan a hefyd drichanmlwyddiant geni Pantycelyn, bydd hwn yn achlysur amserol ar gyfer 1 Mawrth 2017.

Mae D. Densil Morgan yn gyn-fyfyriwr ac yn gyn-aelod o staff Prifysgol Bangor. Ar hyn o bryd mae’n Athro Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cyhoeddir Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis gan Wasg Prifysgol Cymru.

6.00 o’r gloch nos Fercher, 1 Mawrth yn Narlithfa PL2, Lefel 2, Pontio: mynediad am ddim, ond bydd angen archebu lle drwy docyn o’r Swyddfa Docynnau.