Cyfle i ennill nawdd i ddilyn PhD yn Ysgol y Gymraeg
Beth am wneud PhD yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor?
Mae Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn aelod o’r Ganolfan Hyfforddiant Doethuriaethol yn yr Ieithoedd Celtaidd a noddir gan yr AHRC. Mae’r gystadleuaeth ar gyfer 2017-18 bellach yn agored, a gwahoddir ymgeiswyr sy’n meddu ar MA perthnasol (neu gymhwyster cyfatebol) i fynegi diddordeb. Dylid cysylltu gyda’r Athro Gerwyn Wiliams (gerwyn@bangor.ac.uk) ar fyrder ac erbyn 20 Rhagfyr fan bellaf i drafod cais posib am ysgoloriaeth.
Mae’r ysgol yn gartref i gymuned fywiog o fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwil a diddordebau’r staff yn amrywio o astudiaethau testunol o farddoniaeth a rhyddiaith ganoloesol hyd at ymdriniaethau theoretig â gwaith llenorion modern a phrojectau ysgrifennu creadigol.
Ceir mwy o fanylion am y cynllun AHRC ar y gwedudalennau yma.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016