Newyddion Diweddaraf

Seminar Rhyngwladol ar Derminoleg a Lecsicograffeg

Byddwn yn cynnal seminar rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor ar y 4 Medi ar y testun “Adnoddau ar gyfer Terminoleg a Lecsicograffeg: Yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd ei angen arnom”. Bydd gennym siaradwyr gwadd o wahanol sefydliadau terminoleg ac addysg uwch yn Ewrop.


Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2017

Rhannu arbenigedd mewn cynllunio a hyrwyddo’r Gymraeg efo ymwelwyr o Rwsia

Croesawodd Canolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau, technoleg ac ymchwil Cymraeg Prifysgol Bangor, ymchwilwyr academaidd o Rwsia yn ddiweddar.

Dyddiad cyhoeddi: 12 Ebrill 2017

RoboLlywydd a Lleisiau Cymraeg eraill

Mae Prifysgol Bangor wedi creu offer newydd ar gyfer cynhyrchu lleisiau synthetig Cymraeg sy’n swnio’n naturiol iawn. Bydd y lleisiau hyn yn gallu darllen yn uchel unrhyw destun o gyfrifiadur neu ddyfais symudol.

Fel rhan o broject Macsen, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, datblygwyd dull cyflym a hawdd o baratoi promptiau, recordio llais unigolyn yn eu darllen, a defnyddio gwybodaeth am seiniau’r Gymraeg i adeiladu lleisiau synthetig sy’n swnio’n debyg iawn i lais yr unigolyn a recordiwyd.   

Yn nigwyddiad SeneddLab2017 yng Nghaerdydd yn ddiweddar, cafodd tîm Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr gyfle i roi hyn ar brawf, gan adeiladu llais newydd mewn un awr i roi gwybodaeth lafar am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i alw yn ‘RoboLlywydd’. 

Dyddiad cyhoeddi: 11 Ebrill 2017

Dr Prysor Williams yn derbyn Gwobr am ei gyfraniad i wyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg

Derbyniodd Dr Prysor Williams, Uwch-ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Ysgol Gwyddorau'r Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, Wobr Goffa Eilir Hedd Morgan yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg yn Abertawe  neithiwr (Mercher 08 Mawrth 2017).

Dyddiad cyhoeddi: 9 Mawrth 2017

Dathlu Llwyddiant ar Ddydd Gŵyl Dewi

Bydd Prifysgol Bangor yn nodi Dydd Gŵyl Dewi eleni trwy gynnal digwyddiad i ddathlu llwyddiant tri thîm sydd wedi sgorio’r marciau uchaf posib mewn arolwg annibynnol o wasanaethau Cymraeg.

Llwyddodd tîm y Switsfwrdd Canolog a thîm Derbynfa Pontio i sgorio 100% mewn ymchwiliad i wasanaethau ffôn a derbynfa gan Gomisiynydd y Gymraeg. Yn ystod ymarfer siopwr cudd gan swyddfa’r Comisiynydd, cysylltwyd â’r timau hyn dair gwaith a llwyddodd y timau i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn a chwrtais bob tro. Roedd yr Arolwg Sicrwydd gan Swyddfa’r Comisiynydd yn un cenedlaethol a dim ond nifer cymharol fychan o weithleoedd a lwyddodd i sgorio 100%.

Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2017