Newyddion: Hydref 2018

Llongddrylliadau hanesyddol i gyfrannu at ddyfodol ynni adnewyddadwy morol Cymru

Bydd llongddrylliadau hanesyddol o amgylch arfordir Cymru, fel llongddrylliad y llong danfor Almaenig a suddodd 10 milltir oddi ar Ynys Enlli ar ddiwrnod Nadolig 1917, yn cyfrannu at dwf sector ynni adnewyddadwy morol Cymru.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd gwyddonwyr morol o Brifysgol Bangor yn arolygu arfordir Cymru fel rhan o broject SEACAMS2 a gyllidir gan yr ERDF ac a arweinir gan y brifysgol mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Bydd ymchwilwyr o Ysgol Gwyddorau'r Eigion a Chanolfan Gwyddorau Môr Cymhwysol Prifysgol Bangor yn cynnal ymchwil cydweithredol, yn cynnwys arolygon morol, i gefnogi twf cynaliadwy'r sector ynni adnewyddadwy morol yng Nghymru. 

Dyddiad cyhoeddi: 8 Hydref 2018