Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen!
Wrth i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddathlu ei phenblwydd yn 72eleni, bu staff talentog Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn eithriadol o brysur yno.
Pobl ifanc o Tsieina sydd ar secondiad i ddysgu Mandarin a diwylliant Tsieineaidd mewn ysgolion, colegau a chymunedau gogledd Cymru, yw Tiwtoriaid Tsieineaidd y Sefydliad a hwy fu’n perfformio ar Lwyfan y Byd yn Eisteddfod yn Llangollen. Roedd eu perfformiadau yn cynnwys dawnsfeydd Tsieineaidd traddodiadol, caneuon Tsieineaidd a chrefftau ymladd, ynghyd â datganiad hudolus ar yr Hulusi.
Dywedodd Emma Webb, aelod o'r gynulleidfa yn Llangollen,
Cawsom ein syfrdanu gan berfformiadau cyfareddol y dawnswyr Tsieineaidd ac fe wnaethom fwynhau gweld cymaint o wahanol fathau o gerddoriaeth a dawns draddodiadol Tsieineaidd. Roedd perfformiad y tai chi yn anhygoel!
Yn ogystal â pherfformio yn yr ŵyl, cynhaliodd staff Sefydliad Confucius weithdai arbenigol yng Nghanolfan Harmoni yr Eisteddfod. Roedd y gweithdai y canolbwyntio ar weithgareddau megis caligraffi Tsieineaidd, peintio barcud, sut i gynnal seremonïau te a chlymau Tsieineaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2019