Profiad o Hen Gelfyddyd Ysgrifennu
Yn ystod mis Hydref gwelwyd diwedd cyfnod prysur yn Sefydliad Confucius y Brifysgol, wrth i dymor arbennig yn ymwneud â chaligraffi Tsieineaidd, a oedd yn dathlu hen gelfyddyd ysgrifennu, ddod i ben yn gynharach y mis hwn.
Cynhaliwyd yr ŵyl caligraffi i ddathlu agor y Sefydliad Confucius cyntaf un ddeng mlynedd yn ôl yn Seoul, De Corea. Denodd dros 300 o bobl i ddigwyddiadau ar draws y rhanbarth yn ystod y pythefnos yn arwain at Ddiwrnod Sefydliad Confucius ar 27 Medi.
Yn ogystal â gweithdai cyhoeddus yn Llandudno, Bangor a Chaernarfon, a sesiynau arbennig gydag Adran Celfyddyd Gain y Brifysgol a Choleg Menai, roedd y Sefydliad Confucius yn hynod falch o groesawu'r arbenigwr nodedig ar galigraffi, Sun He, Athro yn y Dyniaethau ym Mhrifysgol Gwyddor Gwleidyddiaeth a'r Gyfraith yn Beijing a ffigwr amlwg ym maes diwylliant Tsieineaidd.
Rhannodd yr Athro Sun ei harbenigedd creadigol drwy gyfres o ddosbarthiadau meistr, gweithdai a sgyrsiau. Yna, ar ddydd dathlu'r pen-blwydd, fe wnaeth y caligraffydd a'r crefftwr Cymreig blaenllaw, Ieuan Rees, ymuno â hi mewn gweithdai traws-ddiwylliannol gwych yn Oriel Canolfan Siopa Deiniol ym Mangor.
"Mae'r gelfyddyd hardd a hynafol hon ar gael i bawb ac mae'n un o gonglfeini diwylliant a hanes Tsiena ar hyd y blynyddoedd..." meddai Dr David Joyner, Cyfarwyddwr y Sefydliad.
"Mae wedi bod yn fraint wirioneddol gallu dod â gŵyl mor gyffrous i ogledd Cymru mewn partneriaeth â'n cyfeillion yn BOCS, Venue Cymru, Galeri a Chynllun Celfyddydau Bangor."
Dyddiad cyhoeddi: 28 Hydref 2014