Module DXC-3701:
Traethawd Hir
Project Anrhydedd 2023-24
DXC-3701
2023-24
School Of Natural Sciences
Module - Semester 1 & 2
30 credits
Module Organiser:
Katherine Steele
Overview
Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gynnal ymchwiliad annibynnol eang a gwreiddiol o bwnc sy'n berthnasol i'w rhaglen gradd. Mae'n bosib y bydd yn cynnwys arbrofi ymarferol mewn labordy a / neu drwy waith maes, neu astudiaeth nad yw'n ymwneud ag arbrofi. Fe'i cynhelir o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Mae'r modiwl hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu syniadau eu hunain, dangos eu gallu i fentro, gweithio'n annibynnol ac i ddilyn cynllun y cytunwyd arno, ac i'r priodoleddau hyn gael eu hasesu. Mae'n rhaid i waith ysgrifenedig y project fod ar ffurf adroddiad ymchwil, mewn fformat penodol. Bydd hefyd yn cael ei asesu ar sail cyflwyniad llafar mewn seminar; bydd y manylion ar gael ar ddechrau'r modiwl.
Learning Outcomes
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o faes eu hymchwil, gan gynnwys dealltwriaeth ymarferol o dechnegau ymchwil perthnasol.
- Gallu cyfleu darganfyddiadau ymchwil yn glir ac yn gynhwysfawr, ar lafar ac yn ysgrifenedig, i gynulleidfa arbenigol.
- Gallu i werthuso ymchwil gyfredol yn yr un maes yn feirniadol.
- Gallu tynnu casgliadau dilys o wybodaeth a data a gasglwyd yn systematig, hyd yn oed os nad ydynt yn gyflawn.
- Hunangyfeiriad, cymhelliant a gwreiddioldeb wrth ddilyn llwybr ymchwil.
Assessment type
Summative
Weighting
90%
Assessment type
Summative
Weighting
10%