Modiwl DXC-3701:
Project Anrhydedd
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Natural Sciences
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Katherine Steele
Amcanion cyffredinol
Pwrpas y modiwl yw galluogi myfyrwyr i gynnal ymchwil annibynnol, gwreiddiol ar bwnc dewisol a chyfleu eu darganfyddiadau yn ysgrifenedig i gylch o ddarllenwyr arbenigol. Nod y modiwl yw rhoi profiad i fyfyrwyr o:
- datblygu rhagdybiaethau a threfnau arbrofol a phrotocol ar gyfer eu profi
- cynnal ymchwil annibynnol ar bwnc sy'n berthnasol i'w rhaglen gradd
- casglu, dadansoddi a dehongli canlyniadau ar sail gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli
- darparu adroddiad project ymchwil mewn fformat safonol.
Cynnwys cwrs
Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gynnal ymchwiliad annibynnol eang a gwreiddiol o bwnc sy'n berthnasol i'w rhaglen gradd. Mae'n bosib y bydd yn cynnwys arbrofi ymarferol mewn labordy a / neu drwy waith maes, neu astudiaeth nad yw'n ymwneud ag arbrofi. Fe'i cynhelir o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd. Mae'r modiwl hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu syniadau eu hunain, dangos eu gallu i fentro, gweithio'n annibynnol ac i ddilyn cynllun y cytunwyd arno, ac i'r priodoleddau hyn gael eu hasesu. Mae'n rhaid i waith ysgrifenedig y project fod ar ffurf adroddiad ymchwil, mewn fformat penodol. Bydd hefyd yn cael ei asesu ar sail cyflwyniad llafar mewn seminar; bydd y manylion ar gael ar ddechrau'r modiwl.
Meini Prawf
trothwy
Mae'r traethawd hir wedi ei strwythuro¿n rhesymegol ac mae'n cynnwys adolygiad llenyddol, disgrifiad a dadansoddiad o'r project, trafodaeth a rhestr gyfeiriadau. Nodir y rhesymau dros gynnal y project ond nid yw'r rhagdybiaethau arbrofol yn cael eu nodi'n glir. Mae'r adolygiad llenyddol yn ymdrin â'r pynciau mwyaf perthnasol, ond mae'n ddisgrifiadol yn bennaf ac angen canolbwynt. Disgrifir y manylion gweithredu ond mae rhai o'r elfennau llai pwysig wedi eu hepgor neu'n aneglur. Mae'r dull o ymdrin â'r dadansoddi data ar y cyfan yn gywir ond mae'r amrywiaeth yn gyfyngedig. Cyflwynir y darganfyddiadau'n gyffredinol ac maent wedi eu dehongli'n gywir. Mae'r drafodaeth yn ddigonol ond yn gyfyngedig o ran cwmpas a dyfnder. Tynnir rhai casgliadau cywir o'r astudiaeth. Mae safon y cyflwyniad yn dderbyniol.
da
Mae'r traethawd hir wedi ei strwythuro'n rhesymegol ac mae'n cynnwys adolygiad llenyddol, disgrifiad a dadansoddiad o'r project, trafodaeth a rhestr gyfeiriadau. Nodir yn glir y rhesymau dros gynnal y project a nodir hefyd y rhagdybiaethau arbrofol. Mae'r adolygiad llenyddol yn dangos peth tystiolaeth o ddadansoddi beirniadol ac mae'n ymdrin â phynciau perthnasol mewn trefn resymegol. Mae'r dulliau a'r trefnau a ddefnyddir yn rhai priodol, wedi eu cyfiawnhau a'u disgrifio. Mae'r dull o ddadansoddi data yn gywir. Cyflwynir y darganfyddiadau'n glir ac maent wedi eu dehongli'n gywir. Mae'r drafodaeth yn cysylltu'r darganfyddiadau â gwybodaeth gyfredol. Dengys dystiolaeth o'r gallu i gasglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynnonellau i helpu'r dehongli. Tynnir casgliadau perthnasol ac mae'r rhain yn gysylltiedig ag ymarfer cyfredol ac arbrofi pellach fel bon briodol. Mae safon y cyflwyniad yn uchel.
ardderchog
Nodir yn glir y rhesymau cefndirol dros gynnal y project a nodir hefyd y rhagdybiaethau arbrofol. Mae'r adolygiad llenyddol yn gynhwysfawr, yn dangos tystiolaeth o ddadansoddi beirniadol ac mae'n ymdrin â phob pwnc perthnasol mewn trefn resymegol. Mae'r dulliau a'r trefnau a ddefnyddir yn rhai priodol, wedi eu cyfiawnhau a'u disgrifio'n eglur. Mae'r dull o ddadansoddi data yn gywir. Nodir tueddiadau neu effeithiau pwysig a brofwyd. Cyflwynir y darganfyddiadau'n glir ac maent wedi eu dehongli'n gywir. Mae¿r drafodaeth yn cysylltu'r darganfyddiadau â gwybodaeth gyfredol yn glir. Dengys dystiolaeth o'r gallu i gasglu gwybodaeth o amrywiaeth o ffynnonellau i helpu'r dehongli. Tynnir casgliadau perthnasol ac mae'r rhain yn gysylltiedig ag ymarfer cyfredol ac arbrofi pellach fel bo'n briodol. Mae safon y cyflwyniad yn uchel iawn.
Canlyniad dysgu
-
Hunangyfeiriad, cymhelliant a gwreiddioldeb wrth ddilyn llwybr ymchwil.
-
Dealltwriaeth gynhwysfawr o faes eu hymchwil, gan gynnwys dealltwriaeth ymarferol o dechnegau ymchwil perthnasol.
-
Gallu i werthuso ymchwil gyfredol yn yr un maes yn feirniadol.
-
Gallu tynnu casgliadau dilys o wybodaeth a data a gasglwyd yn systematig, hyd yn oed os nad ydynt yn gyflawn.
-
Gallu cyfleu darganfyddiadau ymchwil yn glir ac yn gynhwysfawr, ar lafar ac yn ysgrifenedig, i gynulleidfa arbenigol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
DISSERTATION | Dissertation (Research Project) | 90.00 | |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Project Presentation | 10.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Darlithoedd Rhagarweiniol 5 x 1 awr |
5 |
Tutorial | Tiwtorialau gyda'r goruchwyliwr. Gall y nifer a'r hyd amrywio fesul project a dylent gael eu trefnu gan y myfyriwr i raddau helaeth. |
11 |
Workshop | Seminar 2 x 2 awr |
4 |
Individual Project | 280 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Demonstrate awareness of the importance of risk assessment and relevant legislation
- Recognize the moral, ethical and social issues relating to the subject.
- Develop and identify research question(s) and/or hypotheses as the basis for investigation.
- Conduct fieldwork and/or laboratory work competently with awareness of appropriate risk assessment and ethical considerations
- Consider issues from a range of interdisciplinary perspectives.
- Collect, analyse and interpret primary and/or secondary data using appropriate qualitative and/or quantitative techniques.
- Apply appropriate techniques for presenting spatial and/or temporal trends in data.
- Prepare effective maps, diagrams and visualizations.
- Undertake field and/or laboratory studies to ensure competence in basic experimental and/or fieldwork skills.
- Demonstrate awareness of the importance of risk assessment and relevant legislation
- Engagement with current subject developments and their application.
- Engage in debate and/or discussion with specialists and non-specialists using appropriate language.
- Demonstrate the independence and skills required for continuing professional development