Module HGC-3161:
Edward Goncwerwr
Edward Goncwerwr a’r ‘Cyrion Celtaidd’, 1239-1307 2024-25
HGC-3161
2024-25
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Euryn Roberts
Overview
‘Mae Lloegr, yr Alban a Chymru o dan awdurdod Edward’, cyhoeddodd un croniclydd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ‘felly llwyddodd i ail-greu brenhiniaeth Prydain gyfan.’ Er mai gormodiaith oedd y duedd i bortreadu Edward y 1af (1239-1307), brenin Lloegr, fel Ail Arthur, roedd y gymhariaeth yn fynegiant amlwg o’i gamp ryfeddol i ddwyn Ynysoedd Prydain o dan sawdl coron Lloegr. Yn yr union gyfnod hwn, hawliwyd awdurdod dros Yr Alban, daeth Iwerddon yn gynyddol o dan rym y goron, ac fe goncrwyd Cymru yn llwyr. Ynghlwm wrth hynny oedd y newidiadau mawr yn Lloegr, wrth i undod gwleidyddol a pheirianwaith sefydliadol y deyrnas aeddfedu. Cyfrannodd yr awyrgylch hwn o newid gwleidyddol ac ymladd gwaedlyd at y syniad o arwahanrwydd a chenedligrwydd ymhlith pobloedd y pedair gwlad. Ac, wrth gwrs, hyd heddiw mae enwau unigolion megis Llywelyn ein Llyw Olaf ac William Wallace yn parhau i fod yn ffocws atgofion a dyheadau.
- Teyrnasoedd a thrigolion Ynysoedd Prydain yn yr Oesoedd Canol
- Y Frenhiniaeth a Chymundod Gwleidyddol Lloegr yn y 13g.
- Teyrnas yr Alban yn Oes y Ddau Alecsander
- Gwlad ac Arglwydd: Cymru yn Oes y Ddau Lywelyn
- Uchelwyr a Merswyr: Arglwyddiaethau Trawsffiniol Ynysoedd Prydain
- Tywysog Cymru a Brenin Lloegr, 1267-82
- Y Goncwest a’r Gyfundrefn Edwardaidd yng Nghymru, 1283-1307
- Teyrnas mewn Cyfyngder: Yr Alban, 1286-95
- ‘Y Rhyfel dros Annibyniaeth yr Alban’, 1296-1307
- O Oruchafiaeth i Oresgyniad? ‘Ymerodraeth’ Edward I
Assessment Strategy
Trothwy Bydd myfyrwyr trothwy (40%) yn dangos gwybodaeth sylfaenol o rannau o leiaf o’r maes perthnasol a byddant yn gwneud ymdrechion lled lwyddiannus o leiaf i lunio dadl sy’n cydnabod y ceir gwahaniaethau mewn dehongliad hanesyddol.
Boddhaol Bydd myfyrwyr sy'n perfformio yn foddhaol (C-, C, C+ [50au]) yn dangos lefel uwch o wybodaeth, a’r gallu i gyflwyno dadl gydlynol sy’n cael ei chynnal gan dystiolaeth addas am nifer o agweddau ar y testun.
Da Bydd myfyrwyr sy'n perfformio yn dda (B-, B, B+ [60au]) yn dangos lefel gadarn o gyrhaeddiad yn yr holl feini prawf a restrwyd yn y paragraffau uchod.
Rhagorol Bydd myfyrwyr sy'n perfformio yn rhagorol (A-, A, A+, A* [70au ac uwch]) yn dangos y cyrhaeddiad cadarn hwn ar draws yr holl feini prawf ynghyd â dyfnder gwybodaeth drawiadol iawn a/neu allu dadansoddol eithriadol graff.
Learning Outcomes
- Cyflwyno dadleuon hanesyddol clir, ar sail tystiolaeth, ac argyhoeddiadol ar agweddau ar hanes Ynysoedd Prydain yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg.
- Dangos cynefindra agos ag ystod o ffynonellau gwreiddiol, a'u defnyddio mewn dadleuon hanesyddol.
- Dangos dealltwriaeth drylwyr o hanes gwleidyddol Ynysoedd Prydain yn ystod Oes Edward I (1239-1307).
- Dangos gwybodaeth fanwl am rai agweddau ar y testun.
- Meithrin y gallu i farnu rhwng gwahanol ddehongliadau hanesyddol o'r cyfnod, gan gynnwys pwyso a mesur safbwyntiau yn tarddu o'r hanesyddiaeth ddiweddaraf.
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Examination paper testing a broad understanding of the topic.
Weighting
50%
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Essay that analyses one or more primary sources relevant to the topic
Weighting
50%