Module JXC-2038:
Sgiliau Asesu Ffisiolegol
Sgiliau Asesu Ffisiolegol 2022-23
JXC-2038
2022-23
School Of Human And Behavioural Sciences
Module - Semester 2
10 credits
Module Organiser:
Kevin Williams
Overview
Wy1: Rhagarweiniad
Wy2: Cyfansoddiad y Corff
Wy3: Swyddogaeth yr ysgyfaint
Wy4: Asesiad anuniongyrchol VO2max
Wy5: Asesiad uniongyrchol VO2max
Wy6: Trothwy lactad
Wy7: Pŵer anaerobig
Wy8: Ystwythder
Wy9: Darlith Adolygu/Arholiad
Wy10: Ymarfer
Wy11: Ymarfer
Assessment Strategy
F (0-29%) Gwael iawn/methu – Methu â dangos dealltwriaeth o'r asesiadau ffisiolegol, gydag ymatebion amherthnasol neu anghywir ar y cyfan. Methiant i ddeall y pryderon diogelwch sy'n gysylltiedig â phrofi, a lefel y cyfathrebu sydd ei angen. Methiant i roi adborth digonol yn seiliedig ar y set ddata a ddarparwyd gyda dehongliadau amherthnasol neu anghywir o'r data. E (30-39%) Gwael – Dim digon o ddealltwriaeth o'r asesiadau ffisiolegol, ystyriaethau diogelwch a lefel y cyfathrebu sydd ei angen. Dealltwriaeth annigonol o'r cysyniadau ffisiolegol a sut mae data'n cael ei ddehongli yn yr adborth i'r cleient.
TROTHWY D (40-49%) Llwyddo - Dealltwriaeth sylfaenol o'r asesiadau ffisiolegol, ystyriaethau diogelwch a lefel y cyfathrebu sydd ei angen. Lefel sylfaenol o ddehongli data a dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau damcaniaethol. Gall dealltwriaeth fod yn rhannol neu gall cywirdeb fod yn amheus. Mae anghywirdebau a chamsyniadau yn amlwg.
DA C (50-59%) Da – Dealltwriaeth gliriach o ofynion aseiniad. Wedi dangos dealltwriaeth o'r asesiadau ffisiolegol yn ogystal ag unrhyw ystyriaethau diogelwch perthnasol. Dealltwriaeth gliriach o wybodaeth allweddol i'w chyfleu i'r cyfranogwr. Wedi dangos dealltwriaeth o gysyniadau ffisiolegol a sut mae data'n cael ei ddehongli a'i gymhwyso. Ychydig o anghywirdebau a chamsyniadau sy'n amlwg. B (60-69%) Da Iawn – Dealltwriaeth dda iawn o ofynion asesu gydag ychydig iawn o anghywirdebau a chamsyniadau yn amlwg. Ymatebion da iawn i gwestiynau Viva Voce yn dangos dealltwriaeth dda iawn o asesiadau ffisiolegol, ystyriaethau diogelwch a lefel y cyfathrebu sydd ei angen. Cafwyd adborth da iawn i'r cleient, gan ddangos sgiliau dehongli da iawn a chymhwysiad da iawn. Roedd dealltwriaeth ddamcaniaethol hefyd yn dda iawn. Mae cyfathrebu yn y Viva yn broffesiynol, yn llawn gwybodaeth ac yn gryno. Mae adborth y cleient yn addas at y diben ac yn addas i'r derbynnydd.
RHAGOROL A (70-100%) Ardderchog - Dealltwriaeth ragorol o ofynion asesu heb unrhyw gamgymeriadau na chamsyniadau. Dealltwriaeth ragorol o'r asesiad ffisiolegol, ystyriaethau diogelwch a'r holl wybodaeth berthnasol sydd ei hangen ar y cyfranogwr. Mae adborth y cleient o safon y gellid trosglwyddo'r adroddiad i gleient go iawn heb fod angen ei olygu. Mae'r adroddiad yn addas i'r diben, gyda'r holl wybodaeth angenrheidiol wedi'i darparu'n gryno. Cynhaliwyd y Viva mewn modd proffesiynol iawn lle'r oedd y cyfathrebu'n ardderchog, yn gryno ac yn hynod berthnasol.
Learning Outcomes
- Dangos cymhwysedd mewn nifer o asesiadau ffisiolegol craidd yn y labordy, wrth dangos cyfathrebu effeithiol a bod yn ymwybodol o ddiogelwch
- Dangos dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau ffisiolegol a sut y gellir dehongli a chymhwyso'r data.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Adroddiad Adborth Cleient Yn yr aseiniad hwn byddwch yn ysgrifennu adroddiad adborth cryno, i athletwr/hyfforddwr, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau allweddol. Bydd yr adroddiad yn sicrhau bod gan y cleient ddealltwriaeth o'r paramedrau pwysig, a sut y gellir cymhwyso hyn i wella perfformiad.
Weighting
50%
Due date
18/04/2023
Assessment method
Oral Test
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad Viva Voce Yn yr arholiad hwn, gofynnir i chi ddisgrifio'r broses ar gyfer asesiad ffisiolegol, wedi'u dewis ar hap o restr wedi ei ryddhau ymlaen llaw. Bydd yr asesiad yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth o’r broses o gwblhau’r asesiad yn ogystal ag ystyriaethau diogelwch.
Weighting
50%
Due date
31/05/2023