Module QCL-3370:
Agweddau ar Ddwyieithrwydd
Agweddau ar Ddwyieithrwydd 2023-24
QCL-3370
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Peredur Webb-Davies
Overview
Bydd myfyrwyr yn dysgu am bynciau fel y canlynol:
- Diffinio dwyieithrwydd, a dwyieithrwydd unigol
- Plant dwyieithog
- Dwyieithrwydd cymdeithasol
- Dwyieithrwydd yn y cartref ac yn yr ysgol
- Cyfnewid cod cymdeithasol
- Gramadeg cyfnewid cod
- Agweddau tuag at y Gymraeg a dwyieithrwydd
- Manteision deallusol dwyieithrwydd
- Dyfodol y Gymraeg yn ei chyd-destun dwyieithog
- Dysgu ail iaith fel oedolyn
Learning Outcomes
- Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu, synthesu ac arsylwi (gyda chymorth lle bo’r angen), mewn dull o safon uchel, llenyddiaeth emprig a damcaniaethol berthnasol.
- Bydd myfyrwyr yn gallu arddangos dealltwriaeth uchel o wahanol fathau o sefyllfaoedd dwyieithog ac amlieithog.
- Bydd myfyrwyr yn gallu arddangos gwybodaeth uchel o brif hanfodion, amcanion, rhagdybiaethau, damcaniaethau a methodolegau sydd yn cael eu defnyddio ym maes astudio dwyieithrwydd ac amlieithrwydd.
- Bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi data ieithyddol mewn modd soffistigedig, gan ddefnyddio methodolegau sydd yn addas ar gyfer maes dwyieithrwydd.
- Bydd myfyrwyr yn gallu ennill gwybodaeth a dealltwriaeth uchel o sefyllfa’r iaith Gymraeg a’i phobl o ran dwyieithrwydd, gan arddangos gallu i gymharu’r sefyllfa yng Nghymru â sefyllfaoedd dwyieithog tebyg ledled byd, o sawl safbwynt.
Assessment type
Summative
Weighting
40%
Assessment type
Summative
Weighting
60%