Module SCS-3010:
Hawliau Ieithyddol
Hawliau Ieithyddol 2023-24
SCS-3010
2023-24
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Cynog Prys
Overview
Ceir ymdriniaeth drylwyr o faes hawliau ieithyddol yn ystod y modiwl hon. Mae'n cynnwys ymdrin â'r ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a gosod yr hawliau hyn o fewn fframwaith polisi hanesyddol y maes ac yn ogystal o fewn cyd-destun ehangach hawliau lleiafrifol. Mae'r modiwl yn pwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a'r damcaniaethau allweddol sydd ynghlwm wrthynt. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys trafodaeth ynglyn â sicrhau hawliau ieithyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac yn ogystal, yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd yn y maes.
Assessment Strategy
Trothwy (D+)
Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o theorïau a phersbectifau damcaniaethol ym maes hawliau ieithyddol. Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes.
Da (B+)
Dangos dealltwriaeth dda o theoriau a phersbectifau ym maes hawliau ieithyddol. Dangos dealltwriaeth dda o rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes.
Rhagorol (A+) Gallu ymdrin yn feirniadol â theoriau a phersbectifau damcaniaethol. Gallu dadansoddi ac egluro rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes.
Learning Outcomes
- Amlygu datblygiad y ddadl ynghylch hawliau'r unigolyn a hawliau grŵp a chymhwyso damcaniaethau nodedig ac allweddol at y ddadl hon.
- Arddangos beirniadaeth soffistigedig o hawliau ieithyddol a statws yr iaith Gymraeg yng Nghymru.
- Arddangos gwybodaeth gynhwysfawr am ddatblygiad hawliau ieithyddol o fewn cyd-destun byd eang.
- Defnyddio cysyniadau priodol i drafod a dadansoddi maes hawliau ieithyddol penodol o fewn fframwaith polisi hawliau dinasyddion a hawliau lleiafrifol cyffredinol
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad 2,500-3000 o eiriau
Weighting
50%
Due date
09/03/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad 2 awr
Weighting
50%
Due date
19/05/2023