Module SCS-3010:
Hawliau Ieithyddol
Hawliau Ieithyddol 2022-23
SCS-3010
2022-23
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Cynog Prys
Overview
Ceir ymdriniaeth drylwyr o faes hawliau ieithyddol yn ystod y modiwl hon. Mae'n cynnwys ymdrin â'r ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a gosod yr hawliau hyn o fewn fframwaith polisi hanesyddol y maes ac yn ogystal o fewn cyd-destun ehangach hawliau lleiafrifol. Mae'r modiwl yn pwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a'r damcaniaethau allweddol sydd ynghlwm wrthynt. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys trafodaeth ynglyn â sicrhau hawliau ieithyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac yn ogystal, yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd yn y maes.
Assessment Strategy
-threshold - (D+)
TrothwyDangos ymwybyddiaeth sylfaenol o theorïau a phersbectifau cymdeithasegol. Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes.
-good -Da (B+)
Dangos dealltwriaeth dda o theoriau a phersbectifau cymdeithasegol. Dangos dealltwriaeth dda o rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes
-excellent -Rhagorol (A+) Medru ymdrin yn feirniadol â theoriau a phersbectifau cymdeithasegol. Medru dadansoddi ac egluro rôl sefydliadau cymdeithasol yn y gymdeithas gyfoes
Learning Outcomes
- Cymharu a dadansoddi'n feirniadol prif elfennau hawliau ieithyddol allweddol o fewn cyd-destun Ewropeaidd ac Americanaidd ehangach â'r sefyllfa yng Nghymru.
- Dangos dealltwriaeth ddatblygedig ac egluro yn allweddol gwreiddiau hawliau ieithyddol.
- Dangos dealltwriaeth ddwys a datblygedig amlwg o gynnydd yn hawliau ieithyddol a statws yr iaith Gymraeg yng Nghymru.
- Dangos dealltwriaeth uwch a blaengar ynglyn â datblygiad y ddadl ynghylch hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a chymhwyso damcaniaethau nodedig ac allweddol at y ddadl hon.
- Defnyddio cysyniadau priodol i drafod a dadansoddi maes hawliau ieithyddol penodol o fewn fframwaith polisi hawliau dinasyddion a hawliau lleiafrifol cyffredinol
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Aseiniad 2,500-3000 o eiriau
Weighting
50%
Due date
09/03/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Crynodol
Description
Arholiad 2 awr
Weighting
50%
Due date
19/05/2023