Module SCU-1007:
Sgiliau Ymchwil
Sgiliau Ymchwil 2025-26
SCU-1007
2025-26
Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas
Modiwl - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Myfanwy Davies
Overview
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno chi i’r prif ddulliau ymchwil a defnyddir ar draws y dyniaethau a gwyddorau cymdeithas drwy gyd-weithio i ateb problemau sydd wedi eu gwreiddio yn eich pwnc. Mae’r modiwl wedi ei ddylunio i roi sylfaen i chi o ran cyflawni Nodweddion Graddedigion Bangor, yn benodol o ran cydweithio, ymholi ac ymgymryd â heriau newydd. Byddwn yn archwilio i rôl ymchwil ar draws y gweithleoedd sydd yn cyflogi ein graddedigion. Mae’r modiwl hefyd yn gam cyntaf o fewn llwybr ymchwil ar draws ein graddau.
Bydd natur a threfn yr addysgu yn amrywio, ond byddwn yn cynnwys y pynciau canlynol: Beth ydy ymchwil a phaham ei ddefnyddio? Darllen a deall papurau ymchwil Ymchwil llenyddol Cyfweliadau a grwpiau ffocws Dylunio a dadansoddi arolygon Ymchwil ar ddata cyhoeddus Gweithio gyda chyfranogwyr Dadansoddi sgwrs, grym a moeseg Pwnc 1 – cefnogi gwaith grwp Pwnc 2 – cefnogi gwaith grwp Pwnc 3 – cefnogi gwaith grwp
Assessment Strategy
--Rhagorol: A- i A* Gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr a gwybodus (yn gwneud defnydd rhagorol o ymchwil ac enghreifftiau) o ran dulliau ymchwil sylfaenol a’r gallu i ddeall a chymhwyso ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi. Tystiolaeth cymhellol o roi dulliau ymchwil ar waith a chydweithio ac arwain er ddatblygu cynlluniau ymchwil i fynd i’r afael a phroblemau perthnasol i’r pwnc.
- Da iawn: B +, B, B- Gwybodaeth a dealltwriaeth glir a thrylwyr gyda defnydd da o ymchwil ac enghreifftiau ynghylch dulliau ymchwil sylfaenol. Tystiolaeth gref o'r gallu i ddeall a chymhwyso ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi. Tystiolaeth o'r gallu i adlewyrchu'n gynhwysfawr ar eich gwaith chi ac eraill a gwneud newidiadau ar gyfer eich dysgu yn y dyfodol. Tystiolaeth dda o gydweithio a mentergarwch wrth gymhwyso dulliau ymchwil i ddatblygu cynlluniau ymchwil sy'n berthnasol i'r pwnc.
good -Da: C-, C. C+ Gwybodaeth a dealltwriaeth dda (gan gyfeirio'n dda at enghreifftiau) o ddulliau ymchwil sylfaenol. Tystiolaeth dda o roi'r dulliau yna ar waith i ddatblygu cynlluniau ymchwil i fynd i’r afael a phroblemau perthnasol i’r pwnc ac er mwyn deall a chymhwyso ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi.
trothwy: D-, D, D+ Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o ddulliau ymchwil sylfaenol a sut mae eu defnyddio i ddatblygu cynlluniau ymchwil perthnasol i’r pwnc a deall a chymhwyso ymchwil at y dyfodol. -trothwy -trothwy:
Learning Outcomes
- Cydweithio i ateb problem pwnc penodol
- Cynnig a mireinio cwestiynau ymchwil
- Enghreifftio sut mae cwestiwn ymchwil yn arwain at ddulliau ansoddol neu feintiol penodol
- Trafod canlyniadau ymchwil a myfyrio arnynt
Assessment method
Blog/Journal/Review
Assessment type
Summative
Description
Adolygiad o 2-3 astudiaeth ymchwil sy'n berthnasol i'ch maes pwnc gan ystyried a yw'r dulliau'n cyd-fynd â'r cwestiwn a gwerthuso'r canlyniadau.
Weighting
50%
Assessment method
Report
Assessment type
Summative
Description
Bydd aelodau’r grŵp yn cyfrannu at gynllun er mwyn ateb cwestiwn pwnc penodol. Bydd adran benodol gan bob un o aelodau’r grŵp (gyda hyd ddim llai na 1,000 o eiriau) fydd yn trafod agwedd o’r broblem a’r ymateb. Er hynny bydd rhaid i bob aelod o'r grŵp ddangos tystiolaeth eu bod wedi cydweithio’n effeithiol gan gynnwys delio ag agweddau problemus. Dangosir y tystiolaeth yma trwy adran adfyfyriol (500 gair i bob aelod o'r grwp).
Weighting
50%