Module WXC-2011:
Cerddoreg (Blwyddyn 2)
Cerddoleg (Blwyddyn 2) 2022-23
WXC-2011
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Stephen Rees
Overview
Mae ymchwil yn fedr academaidd sylfaenol, ac felly hefyd y gallu i ysgrifennu'n effeithiol ar ganlyniad yr ymchwil hwnnw. Yn ystod y modiwl hwn, bydd y myfyriwr yn ymchwilio i bwnc o'i ddewis/dewis ei hun, ac yn ysgrifennu traethawd (oddeutu 4,500 o eiriau) fydd yn nodi ei ganfyddiadau. Ar yr un pryd, bydd y modiwl yn gyflwyniad i rai o gonfensiynau a dulliau ymchwil a chyflwyno cerddoregol, a hynny drwy astudiaeth o wahanol enghreifftiau o ysgrifennu academaidd. Ar ben hyn, bydd y myfyriwr yn parhau i ddatblygu'r medrau astudio a ddysgwyd yn Astudio Cerddoriaeth (yn y flwyddyn gyntaf), gan gynnwys medrau llyfryddiaethol, medrau meddwl yn annibynnol, a medrau cyflwyno ar lafar.
Bydd y modiwl yn gyfrwng i baratoi'r unigolyn ar gyfer ysgrifennu Traethawd Hir ym Mlwyddyn 3, a gall hefyd fod yn fuddiol i fyfyrwyr sy'n ystyried Project Golygu ym Mlwyddyn 3.
Bydd y modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ysgrifennu Traethawd Hir ym Mlwyddyn 3, a gall hefyd fod yn fuddiol i fyfyrwyr sy’n ystyried Project Golygu ym Mlwyddyn 3.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy: D-Gwaith sy’n dangos gwybodaeth sylfaenol, gyfyngedig o’r pwnc a ddewiswyd, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ac ymwybyddiaeth gyfyngedig o faterion perthnasol, ond rhywfaint o dystiolaeth o ymdriniaeth gyffredinol ddeallusol, gyda mynegiant gweddol.
-good -Da: B-Dylai’r gwaith ddangos dealltwriaeth gadarn o’r pwnc a ddewiswyd, lefel dda o feddwl cysyniadol ac o werthuso, ymwybyddiaeth dda o’r prif faterion o bwys, gyda thystiolaeth o graffter deallusol a mynegiant da.
-excellent -Rhagorol:A-Gwaith sy’n dangos dealltwriaeth drylwyr o’r pwnc a ddewiswyd, gyda thystiolaeth o astudiaeth fwy trylwyr, lefelau uwch o feddwl deallusol, ymdriniaeth wreiddiol a medrau ysgrifennu rhagorol.
Learning Outcomes
- Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyiwr allu defnyddio arferion ysgrifennu academaidd ym maes cerddoriaeth.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu cyfathrebu gwybodaeth a dehongliadau newydd sy'n deillio o ymchwil ar bwnc cerddolegol o'i ddewis.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu defnyddio sgiliau wrth chwilio am wybodaeth a ffynonellau academaidd.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu dyfeisio a chynllunio prosiect ymchwil.
- Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu ymchwilio cerddoriaeth a hanes cerddoriaeth mewn dull strwythuredig, gwybodus, a gydag ymwybyddiaeth o fethodolegau penodol.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Gwaith Cwrs 1: Llyfryddiaeth
Weighting
15%
Due date
09/02/2023
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Summative
Description
Ymarfer Cynllunio Traethawd Hir. Cyflwynir yn wythnos dysgu 5 o Semester 2.
Weighting
15%
Due date
23/02/2023
Assessment method
Dissertation
Assessment type
Summative
Description
Traethawd ymchwil estynedig. Cyflwynir ar ddydd Llun cyntaf cyfnod asesu'r Gwanwyn.
Weighting
70%
Due date
08/05/2023