Module XAC-1055:
Menter Arloesi
Menter, Arloesi a'r Gymuned: Prosiect API 2025-26
XAC-1055
2025-26
Ysgol Gwyddorau Addysgol
Modiwl - Semester 1 a 2
10 credits
Module Organiser:
Arwyn Roberts
Overview
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddylunio, cyflawni a gwerthuso prosiect menter arloesol yn y gymuned leol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a datblygu hyder mewn gwaith grŵp.
Menter a'r berthynas â chyflogadwyedd Rhinweddau Graddedigion Prifysgol Bangor a sut y gellir eu defnyddio i olrhain datblygiad sgiliau Cynllunio prosiect menter arloesol ar gyfer y gymuned leol Gwaith grŵp a gweithio fel tîm Hunanfyfyrio a gosod nodau
Assessment Strategy
trothwy -Trothwy: D-, D, D+Gwybodaeth a dealltwriaeth foddhaol o'r syniadau hanesyddol a chymdeithasol allweddol sy'n berthnasol i astudio plentyndod ac ieuenctid. Gallu digonol i drafod meysydd dylanwad allweddol (fel technoleg neu hysbysebu) ar fywydau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes
-da -Da: C-, C, C+ Gwybodaeth a dealltwriaeth sylweddol o'r syniadau hanesyddol a chymdeithasol allweddol sy'n berthnasol i astudio plentyndod ac ieuenctid. Gallu da i drafod meysydd dylanwad allweddol ar fywydau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes. Mae gwaith ar y lefel hon yn dangos ymgysylltiad gweddol dda ag ymchwil ehangach.
-rhagorol -Rhagorol: A- i A* Gwybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o'r syniadau hanesyddol a chymdeithasol allweddol sy'n berthnasol i astudio plentyndod ac ieuenctid. Gallu eithriadol i drafod meysydd dylanwad allweddol ar fywydau plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes. Mae gwaith ar y lefel hon yn ymgysylltu'n ddwfn ag ymchwil ac yn cynnig rhywfaint o feddwl a myfyrio annibynnol yn seiliedig ar ymgysylltu o'r fath.
Learning Outcomes
- Arddangos a chymhwyso dealltwriaeth o anghenion presennol y gweithlu plant a phobl ifanc yn eu cymuned leol. Bydd myfyrwyr yn cynhyrchu syniadau arloesol a allai ddiwallu'r anghenion hynny.
- Arddangos a chymhwyso dealltwriaeth o sgiliau menter arloesol a chynllunio prosiect. Bydd myfyrwyr yn gallu trafod heriau a manteision eu prosiect menter dewisol ac egluro sut y gwnaethant ddatblygu eu cynllunio i ddiwallu anghenion y gweithlu plant a phobl ifanc.
- Datblygu syniadau arloesol a chreu cynnyrch neu wasanaeth gorffenedig sy'n bodloni anghenion presennol y gweithlu plant a phobl ifanc yn eu cymuned leol.
- Gwerthuso'r prosiect menter y maent wedi'i gynllunio a'i gyflawni fel rhan o grŵp. Bydd myfyrwyr yn gallu myfyrio ar eu cyfraniad eu hunain i’r gwaith grŵp yn unol â phriodoleddau’r graddedigion ac ystyried cymhwysiad eu prosiect menter i’r gymuned ehangach.
Assessment method
Written Plan/Proposal
Assessment type
Summative
Description
Cynnig a chynllun ar gyfer prosiect menter ac arloesi.
Weighting
40%
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Summative
Description
Bydd y portffolio yn cynnwys: Myfyrdod ar y broses o gyflawni eu prosiect menter, y cyfyngiadau a'r argymhellion i'w wella. Adlewyrchiad o'r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt yn ystod y prosiect menter o dan y penawdau Rhinweddau Graddedigion Prifysgol Bangor. Adborth gan y gymuned yr ymgysylltwyd â hi ar gyfer y prosiect.
Weighting
60%