Gyrfaoedd Prif Ffrwd
Gyrfaoedd Prif Ffrwd ym maes Seicoleg
Dyma rai meysydd mewn Seicoleg, ac enwi ond ychydig, y gellwch eu dewis ar ôl graddio o Brifysgol Bangor:
-
Seicolegydd clinigol – mae seicolegwyr clinigol yn helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Seicolegydd addysgol – mae seicolegwyr addysgol yn cynorthwyo plant, rhieni ac athrawon yn y system ysgolion.
-
Seicolegydd cwnsela – mae seicolegwyr cwnsela yn helpu pobl sydd â phroblemau personol a phroblemau mewn perthynas.
-
Seicolegydd iechyd – mae seicolegwyr iechyd yn helpu pobl i gadw’n iach, ac i ymaddasu i salwch corfforol neu i wella ohono; maent hefyd yn meithrin dealltwriaeth o’r berthynas a geir rhwng lles y corff a’r meddwl.
-
Seicoleg fforensig – mae seicolegwyr fforensig yn helpu i ddeall a newid ymddygiad troseddol; yn aml, maent yn gweithio ochr yn ochr â’r heddlu.
-
Seicolegydd ymchwil – mae seicolegwyr ymchwil yn gwneud ymchwil mewn sefyllfaoedd academaidd, diwydiannol neu sefyllfaoedd eraill.
-
Seicoleg defnyddwyr – mae seicolegwyr defnyddwyr yn gweithio gyda busnesau a sefydliadau eraill er mwyn deall ymddygiad eu cwsmeriaid.
-
Seicolegydd chwaraeon – mae seicolegwyr chwaraeon yn cynorthwyo i wella perfformiad unigol; maent yn gweithio gyda sefydliadau, timau a chlybiau; maent yn gweithio ochr yn ochr â hyfforddwyr ac yn addysgu ac ymchwilio.
-
Seicolegydd galwedigaethol – mae seicolegwyr galwedigaethol yn cynorthwyo i wella perfformiad pobl wrth eu gwaith; maent hefyd yn ceisio gwella eu hyfforddiant.
Cyngor a Chyfarwyddyd Gyrfa BPS
Mae llawer o wybodaeth ar dudalennau gyrfaeodd y Gymdeithas Seicoleg Prydeinig (BPS) ynglyn a'r llwybrau gwahanol gallwch gymryd o fewn seicoleg. Mae ein graddau anrhydedd sengl ni oll yn cario cydnabyddiaeth lawn y BPS fel sylfaen cofrestru graddedigion.