Yr Undeb a’r Brifysgol
Cynllun Strategol Prifysgol Bangor, 2015-2020:
Nod y Brifysgol yw:
- "...dod yn ‘Brifysgol Gynaliadwy’ ym mhob agwedd ar ein gwaith."
- Gan sicrhau bod ein myfyrwyr yn "ddinasyddion y byd gyda dealltwriaeth o'r heriau a'r atebion sydd eu hangen ar gyfer byd cynaliadwy a gwydn."
- "Rydym yn meithrin diwylliant sy'n gwerthfawrogi a hyrwyddo cynaliadwyedd ochr yn ochr â gweithgareddau busnes a menter."
Gweithio mewn partneriaeth:
Mae Undeb Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â'r Brifysgol, ynghyd â phartneriaid eraill. Rydym yn "cydweithio i roi cynaliadwyedd a lles cenedlaethau'r dyfodol wrth wraidd addysgu, dysgu, ymchwil, arloesi a phrofiad y myfyrwyr yn 'Y Brifysgol Gynaliadwy”.
Rydym wedi gweithio gyda'r Lab Cynaliadwyedd i gyd-greu Polisi Cynaliadwyedd ar gyfer Undeb Bangor a Phrifysgol Bangor, yn dilyn fframwaith Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol.
Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru):
Rydym yn gweithio tuag at gymhwyso egwyddorion Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol i'n holl waith trwy'r Nodau Llesiant a'r Pum Ffordd o Weithio.