I le mae ein graddedigion yn mynd?
Mae cyfraniad pwysig ein rhaglen ddoethurol tuag at hyfforddi ymchwilwyr y dyfodol, a thrwy hynny i fywiogrwydd academaidd y ddisgyblaeth, yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod nifer fawr o'n graddedigion PhD diweddar wedi cael eu penodi i swyddi darlithio ac ymchwil trwy'r byd i gyd. Mewn blynyddoedd diweddar, mae ein graddedigion PhD wedi cael eu penodi i staff Ysgol Busnes Bangor a phrifysgolion blaenllaw eraill yn cynnwys:
- Prifysgol Reading
- Ysgol Busnes CASS yn City University
- Prifysgol Exeter
- Prifysgol Essex
- Prifysgol Rhufain 3
- Prifysgol Manceinion
- Prifysgol Loughborough
- Prifysgol Caeredin
- Prifysgol Lancaster
- Prifysgol Glasgow
- Prifysgol Hull
- Prifysgol Sydney
Yn ogystal â'r rhai hynny sydd wedi cael swyddi fel ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa mewn prifysgolion yn y DU a thramor, mae graddedigion PhD eraill wedi cael eu recriwtio’n uniongyrchol gan unedau ymchwil mewn banciau canolog, banciau buddsoddi a sefydliadau cyllidol rhyngwladol (yn cynnwys ECB a BIS).