Gwasanaethau Llyfrgell ac Archif
Mae gan y Brifysgol ystod eang o adnoddau dysgu nodedig. Mae gennym gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Hefyd, mae gennym gronfeydd data, fideos a CDs; defnydd micro ffurf a chyfleusterau argraffu; casgliad arbennig o lawysgrifau a chatalogau ar-lein i gael mynediad at e-lyfrau, cylchgronau electronig, hen bapurau arholiad, canllawiau i bynciau ac amryw o adnoddau dysgu eraill.
Cyfleusterau TG a Chyfrifiadureg
Mae’r Brifysgol yn darparu naw o ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr a thros 1000 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr eu defnyddio. Os ydych chi’n dymuno defnyddio’ch gliniadur (laptop) eich hun, mae mannau diwifr ar gael ymhob un o’r llyfrgelloedd yn ogystal â llawer o’r adeiladau dysgu.
Mae gan bob ystafell wely yn neuaddau Prifysgol Bangor fynediad rhyngrwyd drwy rwydwaith y Brifysgol. Os oes arnoch angen unrhyw gyngor neu gymorth, bydd y ddesg gymorth TG yn gallu eich helpu ar y ffôn, drwy e-bost neu wyneb yn wyneb.
Mae amrywiaeth eang o feddalwedd arbenigol ar gael ymhob un o ystafelloedd cyfrifiaduron y Brifysgol, gyda llawer o’r rhain ar gael o’ch cyfrifiadur eich hun yn unrhyw le sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd.
Blackboard
Mae cefnogaeth ddysgu ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos drwy Blackboard, adnodd dysgu ar-lein Prifysgol Bangor a ddatblygwyd yn helaeth.
Rhithamgylchedd dysgu yw Blackboard, ac mae'n declyn pwerus sy'n cefnogi ac yn gwella profiad dysgu myfyrwyr drwy ddarparu mynediad at nodiadau cyrsiau, erthyglau, deunyddiau darllen, taenlenni, cronfeydd data, sleidiau darlithoedd PowerPoint, byrddau trafod, tudalennau cyhoeddiadau a llawer mwy.
Mae gan bob cynllun gradd a modiwl unigryw ei microsafle Blackboard ei hun. Trefnir i'r rhan fwyaf o'r holl ddeunydd hanfodol fod ar gael i fyfyrwyr drwy'r safle hwn, yn ogystal â deunyddiau ychwanegol. Gellir cael trafodaethau bywiog hefyd ar bynciau amserol sy'n berthnasol i fodiwlau penodol yn rhith-ystafell seminar Blackboard.
Bydd pob arweinydd modiwl yn gwneud defnydd helaeth o'r cyfleuster hwn i wella a chefnogi dysgu a datblygiad pob myfyriwr.
Argraffu a Llungopïo
Mae argraffu laser du a gwyn ar gael ymhob ystafell gyfrifiaduron, yn cynnwys argraffu lliw mewn meintiau o A4 arferol i faint poster A0.
Mae llungopiwyr hunanwasanaeth wedi'u lleoli drwy'r Brifysgol.
Mae'r Uned Argraffu a Rhwymo'n cynnig argraffu sypiau mawr a rhwymo projectau / thesis, yn ogystal ag amrywiaeth eang o wasanaethau eraill.
Myfyrwyr ag Anableddau
Gall y Brifysgol gynorthwyo gyda cheisiadau ar gyfer y Lwfans Myfyrwyr Anabl, a fydd yn helpu myfyrwyr gydag anableddau i gael mynediad at y dechnoleg gynorthwyol a'r gefnogaeth sydd eu hangen i wneud y gorau o'u hastudiaethau.
Darperir dwy ystafell arbenigol Technoleg Gynorthwyol at ddefnydd llwyr myfyrwyr anabl neu'r rhai ag anghenion ychwanegol. Mae'r ystafelloedd yn cynnwys cyfrifiaduron sy'n cynnwys amrywiaeth o feddalwedd cynorthwyol, boglynnwr (embosser) Braille, sganiwr Rainbow, chwyddhadur CCTV a dodrefn y mae modd newid eu huchder. Yn ogystal, mae argraffydd Braille ar gael yn llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau - gall hwn ddarparu cynnyrch Braille yn y Saesneg a'r Gymraeg o unrhyw destun electronig.
Edrychwch ar wefan y Gwasanaethau Anabledd am fwy o wybodaeth am ddarpariaeth y Brifysgol.