

HAF TAI CHI
Cyfres yr haf o sesiynau Tai Chi wythnosol yn rhad ac am ddim
- Lleoliad:
- Sefydliad Confucius, 9fed Llawr, Adeilad Alun Roberts
- Amser:
- Dydd Llun 4 Gorffennaf 2022 – Dydd Llun 25 Gorffennaf 2022
- Cyswllt:
- confuciusinstitute@bangor.ac.uk
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig gwersi Tai Chi wythnosol wyneb yn wyneb
Mae’r gwersi hyn yn addas ar gyfer dechreuwyr ac mae manylion llawn ein pynciau wythnosol i’w gweld isod.
Sylwch fod lle i 7 myfyriwr ym mhob dosbarth felly gofynnwn i chi ganslo eich lle os na allwch fynychu, fel bod person arall yn gallu archebu.
Bydd hwn yn ddigwyddiad personol felly cofiwch gadw hylendid dwylo da a chadw pellter cymdeithasol yn yr adeilad pan fo hynny'n bosibl. Mae mynediad lifft i'r 9fed llawr.
Os bydd unrhyw fynychwr yn teimlo'n sâl peidiwch â mynychu'r sesiwn.
Nid oes cod gwisg penodol, gallwch chi gwblhau'r ymarferion ym mha bynnag ddillad rydych chi'n teimlo'n fwyaf cyfforddus ynddynt.
Cofrestrwch am ddim ar Eventbrite
Dylid cyfeirio ymholiadau anffurfiol at confuciusinstitute@bangor.ac.uk
Gwybodaeth hyfforddwr:
Mae Jun Zhang wedi bod yn ymarfer Simplified Taiji Quan ers 11 mlynedd ac wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon amrywiol yn Tsieina, gan gynnwys cystadleuaeth genedlaethol Taiji lle dyfarnwyd y trydydd safle iddo. Mae wedi dysgu Taiji i fyfyrwyr yn Cambodia ers dwy flynedd ac yn ddiweddar pasiodd gwrs cymhwyso athro Taiji yn y DU.
Manylion am Bob Gwers
DYDDIAD AMSER 12:30-13:30
04/07/2022 1. Kick with Right Heel
11/07/2022 2. Strike opponent's Ears with Both Fists
18/07/2022 3. Turn and Kick with Left Heel
25/07/2022 4. Push Down and Stand on Left Leg