Dathlu’r Flwyddyn Newydd Tseineaidd ym Mangor
CANSLO DIGWYDDIAD – DATHLIADAU'R FLWYDDYN NEWYDD TSIEINEAIDD YM MANGOR DDYDD SADWRN 1 CHWEFROR
Y flwyddyn newydd leuadol yw un o'r digwyddiadau pwysicaf a ddethlir gan bobl Tsieineaidd ledled y byd. Yn anffodus eleni mae'r achosion o coronafirws yn bwrw eu cysgod dros y dathliadau. Cydymdeimlwn â ffrindiau a chydweithwyr Tsieineaidd, a phawb y mae coronafirws yn effeithio arnynt, yn y gweldydd hyn a thramor.
Yn sgil trafod ag aelodau o'r gymuned Tsieineaidd yng ngogledd Cymru, fel arwydd o gydgefnogaeth â'n ffrindiau a'n cydweithwyr yn Tsieina, penderfynwyd canslo Dathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ym Mangor ddydd Sadwrn 1 Chwefror.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2020