Sgwrs Amgylcheddol gan Dr Harvey Dzodin
Ddydd Mawrth 24 Mai, cynhaliodd Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Bangor ddarlith gyhoeddus yn Pontio gan Dr Harvey Dzodin ar y testun Heriau amgylcheddol yn Tsieina a thu hwnt: A all y byd oroesi? Mae Dr Dzodin yn Uwch Gymrawd yng Nghanolfan Tsieina a Globaleiddio, ac yn Uwch Ymgynghorydd Canolfan Ymchwil Delwedd Genedlaethol Prifysgol Tsinghua. Mae wedi cyhoeddi dros 300 o erthyglau mewn sawl cyfrwng gan gynnwys yn y China Daily a’r Global Times ac yn arbenigo ar faterion rhyngwladol, perthynas Tsieina a’r Unol Daleithiau, y Fenter Belt and Road, yn ogystal â newid hinsawdd a'r amgylchedd.
Trafododd Dr Dzodin yr angen i lywodraethau a dinasyddion y byd weithredu ar fater newid hinsawdd byd-eang, sefydlogi’r tymheredd a brwydro yn erbyn unrhyw godiadau pellach.
Rhoddodd Dr Dzodin ei farn am newidiadau y gall llywodraethau rhyngwladol, a ninnau fel unigolion, eu cyflwyno i wrthdroi newid yn yr hinsawdd.
Dywedodd Mr Peter Burns:
“Roedd hwn yn gyflwyniad manwl iawn am ddulliau gweithredu i gadw’r hinsawdd rhag codi ymhellach a ffrwyno lefelau CO2 a nwyon tŷ gwydr rhag achosi niwed amgylcheddol i’r holl fyd, ei chymunedau a’r amgylchedd naturiol yn sgil llosgi tanwyddau ffosil, a’r angen pwysicaf a’r flaenoriaeth - newid i dechnoleg werdd. Gwnaed ymrwymiadau yn COP22 gan genhedloedd a chymunedau. Rhaid i’r addewidion hynny gael eu rhoi ar waith trwy undod a chydweithrediad byd-eang. Trwy ddealltwriaeth o undod y ddynolryw gall pawb gyfrannu at ddatrys problemau’r oes hon. Ni allwn wahanu'r galon ddynol oddi wrth yr amgylchedd a meddwl bod modd diwygio’r naill heb y llall. Mae’r ddynolryw yn rhan organig o'r byd. Mae ei bywyd mewnol yn siapio'r amgylchedd ac mae hithau’n cael ei effeithio arni'n enfawr gan yr amgylchedd hwnnw. Mae'r naill yn gweithredu ar y llall ac mae pob newid parhaol ym mywyd dyn yn ganlyniad i'r cydadweithiau hyn. Diolch yn fawr iawn am gyflwyniad mor bwysig gan Sefydliad Confucius, ac am wybodaeth fanwl Harvey am newid hinsawdd a ffyrdd ymlaen i ddatrys y broblem.”
Esgorodd y sgwrs ar sesiwn holi fanwl a thrafodaeth ymysg y gynulleidfa oedd yno yn y cnawd ac eraill oedd y dilyn trwy Zoom, a pharhaodd y drafodaeth yn ddiweddarach yn y dderbynfa.
Os gwnaethoch chi golli'r sgwrs, gallwch chi ei wylio ar-lein yma.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2022