Module LCF-1003:
Ffrangeg i Ddechreuwyr I
Ffrangeg i Ddechreuwyr I 2023-24
LCF-1003
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Jonathan Ervine
Overview
Mae'r modiwl hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a myfyrwyr sydd wedi astudio Ffrangeg at TGAU ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llafar, gwrando ac ysgrifennu sylfaenol.
Mae'r modiwl yn cynnwys cyflwyniad i ac [yn achos rhai sydd eisoes wedi gwneud TGAU] adolygu gramadeg allweddol.
Bydd y myfyrwyr yn dysgu geirfa gyffredinol ac ymadroddion allweddol sy'n ymwneud ag ystod o destunau, a hynny yn rhannol trwy sefyllfaoedd chwarae rôl. Gan ddefnyddio'r cymhorthion sain/gweledol priodol, bydd y myfyrwyr yn dod i adnabod diwylliant a chymdeithas Ffrainc heddiw.
Testunau allweddol:
Action Grammaire! 3ydd argraffiad gan Phil Turk & Geneviève García Vandaele (Hodder Education, 2006).
The French Experience 1, Marie Therese Bougard, Daniele Bourdais (BBC Publications, 2003)
Rhoddir y cyngor canlynol ynghylch prynu geiriadur:
Efallai y bydd geiriadur cryno (nid geiriadur poced) yn ddigon, ond dylech ystyried cael geiriadur cyfieithu 'go iawn' fel Collins-Robert neu Oxford-Hachette, a dysgu ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn rheolaidd.
Learning Outcomes
- Cyfathrebu'n fedrus yn yr iaith darged ynghylch materion elfennol bob-dydd.
- Darllen ac ynganu testunau Ffrangeg yn gywir ac yn hyderus.
- Deall gwybodaeth a chyfarwyddiadau elfennol yn yr iaith darged, mewn cyweiriau ffurfiol ac anffurfiol.
- Gallu llunio traethodau byr a darnau cryno eraill gan ddefnyddio amserau elfennol y ferf, geirfa sylfaenol, a chystrawen allweddol.
Assessment type
Summative
Weighting
20%
Assessment type
Summative
Weighting
20%
Assessment type
Summative
Weighting
20%
Assessment type
Summative
Weighting
40%