Module VPC-3305:
Byd Naturiol yng Nghref. y Gor
Byd Naturiol yng Nghref. y Gor 2022-23
VPC-3305
2022-23
School Of History, Law And Social Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Gareth Evans-Jones
Overview
Yn 1967 cyhoeddodd Lynn White erthygl ddylanwadol yn cyhuddo Cristnogaeth o fod yn gyfrifol i raddau helaeth am y problemau amgylcheddol a oedd yn dechrau cael sylw yn y Gorllewin. Bydd y modiwl yn ystyried ymatebion Cristnogaeth i'r awgrym hwn a bydd yn archwilio ei pherthynas hanesyddol â'r byd naturiol. Rhoddir sylw hefyd i amrywiaeth o gysylltiadau eraill rhwng crefydd ac amgylcheddaeth yn y byd Gorllewinol, yn cynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â damcaniaeth Gaia, James Lovelock. Ystyrir meysydd penodol sy'n destun pryder amgylcheddol, megis newid hinsawdd a thechnoleg niwclear o ran eu perthynas â thrafodaeth grefyddol a rhoddir sylw i'r rhyngweithio cymhleth rhwng gwleidyddiaeth, amgylcheddaeth a chrefydd yn y maes trafod hwn.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy: D- – D+: Mae gwaith a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn dangos lefel dderbyniol o fedrusrwydd fel a ganlyn:Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac elfennau wedi eu hepgor.Gwneir haeriadau heb dystiolaeth ategol glir neu resymu.Mae fframwaith i’r gwaith ond mae’n ddiffygiol o ran eglurder ac felly’n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau.Defnyddio amrywiaeth cymharol gul o ddeunydd.
-good -Da C- - C +. Mae’r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae’n dangos:Fframwaith da a dadleuon wedi’u datblygu’n rhesymegol.Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.Da iawn B- - B+. Mae’r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull a dewis o ddeunyddiau cefnogol sy'n rhagori. Mae’n dangos:Fframwaith da iawn a dadleuon sydd wedi’u datblygu’n rhesymegol.Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.Cywirdeb a chyflwyniad mewn arddull academaidd briodol.
-excellent -Rhagorol A- - A*. Mae’r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:Mae’n cynnwys esboniadau gwreiddiol gyda syniadau’r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg. Mae’n rhoi tystiolaeth glir o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.
Learning Outcomes
- asesu rhagoriaethau cymharol safbwyntiau Cristnogol a phaganaidd yn y gorllewin tuag at y byd naturiol
- asesu'n feirniadol werth damcaniaeth Gaia o ran ystyriaethau amgylcheddol
- asesu'n feirniadol werth moesegol y portreadau beiblaidd o fyd natur
- ymwneud â chryfderau a gwendidau gwahanol fodelau canoloesol o'r berthynas rhwng pobl-natur
- ystyried cefndir cymdeithasol a gwleidyddol dadleuon cyfoes ynghylch amgylcheddaeth yn yr eglwys
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd 1
Weighting
50%
Due date
03/04/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Traethawd 2
Weighting
50%
Due date
23/05/2023