Module WXC-3232:
Cerddorfaeth Heddiw
Cerddorfaeth Heddiw 2023-24
WXC-3232
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Guto Puw
Overview
Wth. Cynnwys: 1. Cyflwyniad i'r modiwl ac i Nodiant 2. Cyflwyniad i'r offerynnau llinynnol 3. Cyflwyniad i'r chwythbrennau 4. Cyflwyniad i'r Offerynnau Pres I 5. Adnabod llinellau melodig & Cerddorfaethu sgorau piano 6. -- 7. Cyflwyniad i'r offerynnau taro I 8. Vaughan Williams - Fantasia on a Theme by Thomas Tallis 9. Offerynnau chwyth ychwanegol & Offerynnau Pres II 10. Sgorio crescendo & Effeithiau antiffonaidd 11. Cyflwyniad i'r offerynnau taro II 12. Tueddiadau cyfoes & Creu Sgor a Rhannau
Assessment Strategy
Trydydd Dosbarth: D- i D+ (40%-49%) Yr elfen allweddol yma yw creu syniadau cerddorol. Mae ffactorau a all gyfyngu marc i’r lefel hon yn cynnwys: adeiledd global gor-syml neu or-gymhleth nad yw’n cynnal y deunydd sydd ynddo nac yn cael ei gynnal ganddo; ymresymiad cerddorol i’w weld yn anaml a defnydd cyfyngedig ar ddeunyddiau; syniadau cerddorol yn brin a/neu o werth amheus; anghydbwysedd mewn undod ac amrywiaeth ar draul diddordeb cyson (yn arbennig drwy ailadrodd deunydd yn anfeirniadol); amrywiaeth o ran priodoldeb defnydd ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; techneg wedi’i chyfyngu i lefel weddol sylfaenol; rhai ymdrechion sylfaenol, er nad llwyddiannus bob tro, i reoli neu i ffurfio cymalau, cyflymdra, tempo, deinameg, seinlawnder neu ansoddau; cyflwyniad digonol gan mwyaf, er gyda rhai diffygion sylweddol, a deunyddiau y gall fod angen eu diwygio i raddau cyn y gellid eu defnyddio’n ymarferol mewn perfformiad.
Ail Ddosbarth Is: C- i C+ (50%-59%) Creu a realeiddio technegol ar syniadau cerddorol i gyflawni gwaith terfynol sydd, yn gyffredinol, yn effeithiol yw’r brif nodwedd sy’n teilyngu marc yn y categori hwn. Mae ffactorau a all gyfyngu marc i’r lefel hon yn cynnwys: adeiledd global nad yw’n cynnal y deunydd sydd ynddo nac yn cael ei gynnal ganddo yn llawn; diffygion ysbeidiol yn effeithiolrwydd ymresymiad gerddorol; rhai agweddau ar syniadau cerddorol heb eu harchwilio neu heb eu datblygu’n ddigonol; dyfeisgarwch i’w weld ond yn gyfyngedig; llwyddiant cymysg yng nghyfosodiad effeithiol a pherthynas syniadau a deunyddiau; peth anghydbwysedd mewn undod ac amrywiaeth (yn arbennig trwy orddefnydd o ddeunydd heb ddatblygiad); defnydd amhriodol achlysurol o adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; techneg gadarn ond nid bob amser yn hyderus a llyfn; ffurfiant a rheolaeth gerddorol ysbeidiol a chyfyngedig o ran cymalau, cyflymdra, tempo, deinameg, seinlawnder neu ansoddau; rhai diffygion cyflwyniadol, gyda pheth cyfyngiadau ar ymarferoldeb y deunyddiau mewn perfformiad.
Ail Ddosbarth Uwch: B- i B+ (60%-69%) Creu, realeiddio technegol a threfnu syniadau cerddorol dychmygus i greu gwaith cyffredinol sy’n argyhoeddi’n esthetig yw’r nodwedd wahaniaethol yn hyn o beth. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y rhan fwyaf o’r canlynol: adeiledd cyffredinol huawdl ac effeithiol; ymresymiad cerddorol clir, a grëir wrth archwilio a datblygu syniadau a deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol creadigol a huawdl; cydbwysedd da rhwng undod ac amrywiaeth, fel bod y cyfansoddiad yn cynnal diddordeb ac yn gydlynol; defnydd priodol ac effeithiol ar adnoddau offerynnol lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; defnydd cadarn ar ddulliau technegol priodol; sensitifrwydd da wrth bennu brawddegau, arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, gan ddangos dealltwriaeth o’r effaith gyffredinol a gânt ar y gwaith cerddorol gorffenedig; safon dda o gyflwyno, gan roi sylw i fanylion a chyda rhywfaint o dystiolaeth o ystyriaeth o ymarferoldeb y deunyddiau perfformio.
Dosbarth Cyntaf: A- i A (70%-83%) Creu gwaith cyflawn cyffredinol sy’n afaelgar, yn ddiddorol ac yn foddhaol o safbwynt esthetig, a hynny trwy ddychymyg cerddorol a meistrolaeth dechnegol barhaus. Mae’r cyfansoddiad yn dangos y rhan fwyaf o’r canlynol: adeiledd cydlynol wedi’i weu’n dynn; ymresymiad cerddorol cydlynol, argyhoeddiadol a pharhaus, wedi’i greu wrth archwilio a datblygu posibiliadau llawn y syniadau a’r deunyddiau cerddorol; syniadau cerddorol wedi’u creu a’u hynganu gyda dawn a dychymyg amlwg, a chyda rhywfaint o wreiddioldeb; cydbwysedd llwyr briodol (ond nid o anghenraid yn gyfartal) rhwng undod ac amrywiaeth, fel y cynhelir diddordeb a chydlyniad trwy gydol y darn, defnydd nodedig, creadigol ac idiomatig ar adnoddau offerynnol, lleisiol, sonig a/neu dechnolegol; defnydd hyderus, huawdl a doeth ar ddulliau technegol priodol; tystiolaeth o sensitifrwydd craff tuag at effeithiolrwydd brawddegau ac arwyddion, cyflymder, tempo, deinameg, seinlawnder a gweadau, a chyfuniad, cyfosodiad a chydgysylltiad syniadau, a rheolaeth sicr drostynt; cyflwyniad trawiadol, gan roi sylw ardderchog i fanylion ac ystyriaeth lawn i ymarferoldeb deunyddiau perfformio (p’un a fyddo hynny ar gyfer perfformiad byw, ynteu’n realeiddiad o gyflwyniad electroacwstig);
Dosbarth Cyntaf: A+ i A** (84%-100%) Byddai cyfansoddiadau yn y categori hwn yn argyhoeddiadol ac yn gredadwy o fewn rhaglen o weithiau a gyfansoddwyd yn broffesiynol. Ni ddyfernir marciau yn y band hwn ond mewn achosion eithriadol, lle mae’r cyfansoddiad yn cynnig profiad cerddorol llwyr afaelgar a grëir trwy wreiddioldeb creadigol gwirioneddol, ynghyd â realeiddiad technegol cwbl sicr.
Learning Outcomes
- Creu sgôr sy'n briodol i'r ensemble yn unol â'r confensiwn cyfredol.
- Dadansoddi swyddogaeth yr offerynnau (yn eu hadranau ac o fewn y gerddorfa) a chymhwyso hyn drwy gydol y gerddorfaeth.
- Dangos lefel uchel o greadigrwydd, dyfeisgarwch a dychymyg o fewn y cerddorfaethu, sy'n briodol i'r ensemble.
- Dangos y gallu i ysgrifennu'n idiomatig ar gyfer ystod eang o offerynnau cerddorfaol.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Gwaith Cwrs 1 - cerddorfaethu darn byr ar gyfer ensemble offerynnol.
Weighting
20%
Due date
12/10/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Gwaith Cwrs 2 - cerddorfaethu darn ar gyfer cerddorfa siambr
Weighting
30%
Due date
16/11/2023
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Prif Aseiniad - cerddorfaethu dyfyniad sylweddol ar gyfer cerddorfa lawn
Weighting
50%
Due date
08/01/2024