Modules for course LL3M | BA/CHSC
BA Cymdeithaseg & Health and Social Care

This is a provisional list of modules to be offered on this course in the 2019–20 academic year.

The list may not be complete, and the final course content may be different.

You can also view the modules offered in the years: 2017–18; 2018–19.

Find out more about studying and applying for this degree.

Use the buttons after the module titles (where available) to see a brief description of the content, or:
Show all descriptions
Hide all descriptions

Year 1 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

Semester 2

Optional Modules

20 credits from:

  • HPS-1001: From Cradle to Grave? (20) (Semester 2) or
    HAC-1001: Y Wladwriaeth Les (20) (Semester 2)
  • SCY-1002: Cyflwyniad i Gyf Troseddol (20) (Semester 1)
    Cyflwyniad i'r modd yr ymchwilir i drosedd yn Lloegr a Chymru, triniaeth y sawl sydd wedi eu cyhuddo ac ar brawf, yr euogfarnedig a systemau cosb. Edrychir yn hanesyddol ar wreiddiau cyfraith troseddol, llysoedd a'r carchar ynghyd â sut mae newid economaidd, athronyddol a chymdeithasol wedi siapio'r system gyfiawnder a chosb. Trafodir swyddogaethau'r asiantaethau cyfiawnder troseddol, prif syniadau a theoriau ar weithredu'r systemau, a chwestiynir yn feirnadol y modd y trosglwyddir cyfiawnder a chosb.
  • HXC-1004: Cyflwyniad Hanes Modern (20) (Semester 1)
    Bydd y modiwl hwn yn rhoi arweiniad i hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn arbennig: - y chwyldro amaethyddol a’r chwyldro diwydiannol - yr elit a’r dosbarth canol - Rhyddfrydiaeth a Cheidwadaeth - gweithwyr a'r werin - mudiadau gwleidyddol gweithwyr - chwyldroadau - cenedlaetholdeb a hunaniaeth genedlaethol - rhyfel a diplomyddiaeth - Imperialaeth
    or
    HXH-1004: Intro Modern History1815-1914 (20) (Semester 1)
    This module provides an introduction to nineteenth-century history, in particular: - Key events and dates - The political geography of Europe - Industrial Revolutions - Workers - Workers’ Political Movements - Middle Classes - Liberalism and Conservatism - Elites - Revolutions - Nationalism and Nation States - The Disintegration of Multinational Empires - War and Diplomacy - Imperialism It also provides an introduction to basic study skills, in particular: - The Library - Planning, Literature Search, Bibliography - Essay Writing - References, Footnotes, Plagiarism
  • SCY-1004: Cyflwyniad i Droseddeg (20) (Semester 2)
    Mae'r fodiwl yn eich cyflwyno at faes trosedd a chyfiawnder troseddol. Trafodir theorïau a themau allweddol a ddefnyddir i egluro ymddygiad droseddol sy'n cynnwys esboniadau clasurol i'r rhai mwyaf cyfoes; y mesurau a ddatblygwyd i atal trosedd, ynghyd â gorolwg o'r system gyfiawnder troseddol sy'n cynnwys prif asiantaethau cyfiawnder troseddol, datblygiad hanesyddol, strwythur ac atebolrwydd y system.
    or
    SXY-1005: Introduction to Criminology (20) (Semester 2)
    This module is intended to provide Level One students with a thorough familiarity with the major ways of thinking about crime, with reference to some of the main theoretical perspectives within criminology. This module provides an introduction to criminological thought, ranging from classical to strain theories of crime. Theoretical perspectives have been developed in an attempt to explain why people commit crime, and the history of thought on this question will be examined. The module considers the shifting definitions of crime over time and space, and explores the ways in which society responds to crime and criminals. Empirical concerns are likely to include the role of the media in crime construction, the use and abuse of drugs, the experiences of victims of crime and attitudes towards white-collar and organised crime.
  • HXC-1006: Cymru yn y Byd Modern (20) (Semester 1)
    Wythnos 1: Darlith: Deall Cymru fodern ac amcanion y modiwl Dim seminar Wythnos 2: Darlith: Meithrin Cymru fodern (i): Diwydiant ac economi Seminar: Siartiaeth a Beca Wythnos 3: Darlith: Meithrin Cymru fodern (ii): Trosedd, cosb a moesoldeb Seminar: Y Gymru fywgraffiadol: David Lloyd George fel astudiaeth achos Wythnos 4: Darlith: Themâu (i): Mewnfudo ac allfudo Seminar: Mewnfudo Wythnos 5: Darlith: Themâu (ii): Iaith, addysg a chrefydd yn y 19eg ganrif Seminar: Cenedlaetholdeb, Tynged yr Iaith Wythnos 6: Darlith: Themâu (iii): Effaith y ddau ryfel byd Seminar: Y Gymru Lafurol Gweithdy: Eidalwyr yng Nghymru Wythnos 7: WYTHNOS DDARLLEN Wythnos 8: Darlith: Themâu (iv): Merched a llunio Cymru fodern Seminar: Cerddoriaeth boblogaidd Wythnos 9: Darlith: Themâu (v): Diwylliant poblogaidd a newid cymdeithasol Seminar: Merched mewn llenyddiaeth Gymreig Wythnos 10: Darlith: Themâu (vi): Chwaraeon a hunaniaeth Seminar: Hunaniaeth Wythnos 11: Darlith: Materion (i): Y frwydr am hunan-reolaeth Seminar: Y Cwestiwn Cenedlaethol Wythnos 12: Darlith: Materion (ii): Creu Cymru newydd? Seminar: Sesiwn adolygu
    or
    HXW-1010: Wales since 1789 (20) (Semester 1)
  • HXC-1012: GweithreduGwleidyddiaethFodern (20) (Semester 2) or
    HXH-1012: Modern Politics in Action (20) (Semester 2)

Year 2 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • SCU-2001: Dulliau Ymchwil (20)
    Edrychir ar seiliau athronyddol ymchwil gymdeithasol, a'r gwahanol ddulliau sy'n deillio ohonynt. Trwy ddefnyddio'r syniad o'r 'Broses Ymchwil Ddelfrydol', gwelir sut mae angen datblygu bob cam o ymchwil maes mewn modd disgybledig a gofalus, er mwyn sicrhau dilysrwydd a dibynadwyedd. Ystytir sut i weithrediadu cysyniadau, adolygu'r lenyddiaeth berthnasol, ffurfio'r broblem i'w hastudio, diffinio'r newidynnau, creu damcaniaeth, dethol dulliau addas, samplo, a chreu offeryn ymchwil (holiadur/atodlen gyfweld).
    or
    SXU-2001: Social & Political Research (20)
    This module is an introduction to social research. Primarily it is a practical course in the practices of research in social science. Covering the main elements of research design, question formulation, data collection and analysis it informs students of good practice in the area of survey design, cases studies and evaluation methods.
  • NHS-2202: Comparative Health & Welfare (20)

Semester 2

Optional Modules

20 credits from:

  • HAC-2002: Addysg yn y Gymru Gyfoes (20) (Semester 1)
  • SCY-2003: Trosedd a Chyfiawnder (20) (Semester 2)
  • HAC-2009: Cymdeithas, Iaith a Phrotest (20) (Semester 2)
  • HCG-2011: Dehongli'r Gorffennol (20) (Semester 1)
    Er y byddir yn rhoi peth sylw i rai o haneswyr mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg – fel Ranke, Macaulay a Marx – bydd pwyslais y cwrs ar hanesyddiaeth yr ugeinfed ganrif. Canolbwyntir gan hynny ar feddylwyr a thueddiadau allweddol ym maes hanesyddiaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf gan astudio enghreifftiau penodol o gynnyrch y meddylwyr a’r ysgolion dan sylw. Ymysg y pynciau a astudir bydd Ysgol yr Annales, Hanesyddiaeth Farcsaidd, Hanes Merched, Hanes Llafar, a her syniadaeth ôl-strwythurol ac ôl-fodern. Neulltuir yn ogystal ddwy ddarlith i drafod agweddau ar Hanesyddiaeth Cymru yn y cyfnod diweddar.
    or
    HCH-2050: Debating History (20) (Semester 1)
    The first part of the course is concerned with the use of the past made by historians and commentators such as politicians, the way traditions are invented (and destroyed), and introduces the different historiographical schools. The second part covers some historiographical (ie. concerned with the art of writing history) issues with emphasis on the various ideas about the study and writing of history which have developed over the last two centuries and which students need to understand in order to engage confidently with the different approaches which professional historians take to their work. This is taught through a case-study approach where students can apply the different approaches studied in the first part of the course to specific controversial historical subjects. The course will cover the following topics: Whig and Tory history, Ranke, the professionalisation of the study of history, nations, empire, structuralism, post-structuralism, revisionism, counter-factual history, case studies may change from year to year but will include topics such as The Peasants’ Revolt, The English civil war, the outbreak of world war one; suffrage, consumerism, the Welsh in history, the Reformation. American Civil war, Cold War; Oral history; National identity.
  • HPS-2011: Paradoxes of Self: Nietz./Jung (20) (Semester 1)
  • SCS-2018: Cymdeithas, Iaith a Phrotest (20) (Semester 2)
    Ymdrinia’r modiwl hwn â’r mudiad iaith fel symudiad cymdeithasol newydd gan olrhain hanes a chymdeithaseg ymgyrchoedd iaith yng Nghymru a chanolbwyntio ar rôl a dylanwad canu protest yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal, ffocws amlwg i’r modiwl hwn yw cynnig trosolwg effeithiol o ddatblygiadau polisi iaith a chynllunio ieithyddol yng Nghymru o safbwynt hanesyddol, beirniadol a damcaniaethol. Cyflwynir cerrig milltir deddfwriaethol nodweddiadol y maes. Ymhellach, cynigir y modiwl hwn cyd-destun Ewropeaidd perthnasol sy’n darparu trosolwg cychwynnol o sefydliadau a deddfwriaethau allweddol i faes cynllunio ieithyddol. Yna, yr ymdreiddir i feysydd allweddol i faes polisi a chynllunio ieithyddol yng Nghymru sef meysydd addysg cyfrwng Cymraeg, iechyd yng Nghymru a’r trydydd sector yng Nghymru yn benodol er mwyn asesu eu cyfraniad i ddatblygiadau cymdeithaseg iaith yn y Gymru gyfoes.
  • VPC-2406: Crefydd yng Nghymru (20) (Semester 1)

20 credits from:

Year 3 Modules

Compulsory Modules

Semester 1

  • SCU-3010: Traethawd Hir (20)
    Mae Traethawd Hir yn ddarn sylweddol o waith, yn cael ei gwblhau ar lefelau 2 a 3. Mae'r traethawd terfynol tua 10,000 o eiriau, ac yn cael ei gyflwyno yn y drydedd flwyddyn. Mae'n cyfrif fel pedair modiwl tuag at eich dyfarniad gradd terfynol. Yn y modiwl yma, byddwch yn parhau a'r gwaith a gychwynwyd gennych ar Lefel 2, a byddwch yn mynd ati i gwblhau'r Traethawd Hir. Bydd hyn yn cynnwys datblygu'r adolygiad llenyddiaeth a gychwynwyd gennych eisoes ar Lefel 2, sy'n trafod prif themau eich testun. Mae'n bosib y byddwch wedi cwblhau rhywfaint o ymchwil gwreiddiol (ond mae hyn yn opsiynol) - er enghraifft, peth gwaith ymchwil meintiol neu ansoddol gwreiddiol y byddwch wedi ei gynnal gyda chymorth a chyfarwyddyd eich goruchwyliwr/aig. Drwy gydol y modiwl, byddwch yn datblygu eich dadansoddiad o'r lenyddiaeth ac unrhyw ddata a gasglwyd, ac yn ysgrifennu eich traethawd.
    or
    SXU-3010: Dissertation (20)
    The dissertation is a substantial piece of work. The completed dissertation submitted at level 6 (year 3) consists of a written piece of work of 10,000 words. Within this module students will build on work begun at level 5, and work towards the completion of the dissertation. This will involve the refinement or expansion of the literature review begun at level 5, and will include discussion of major themes arising from the literature. Research for the dissertation may include a small amount of primary empirical research, for example a qualitative or quantitative study conducted by the student under the direction of their supervisor. Throughout the module, students will be engaged mainly in developing their analysis of the literature and any other data collected, and in writing the dissertation.
  • NHS-3201: Mental health & Society (20)
  • NHS-3211: Global Health & Social Care (20)

Semester 2

  • SCU-3010: Traethawd Hir
    Mae Traethawd Hir yn ddarn sylweddol o waith, yn cael ei gwblhau ar lefelau 2 a 3. Mae'r traethawd terfynol tua 10,000 o eiriau, ac yn cael ei gyflwyno yn y drydedd flwyddyn. Mae'n cyfrif fel pedair modiwl tuag at eich dyfarniad gradd terfynol. Yn y modiwl yma, byddwch yn parhau a'r gwaith a gychwynwyd gennych ar Lefel 2, a byddwch yn mynd ati i gwblhau'r Traethawd Hir. Bydd hyn yn cynnwys datblygu'r adolygiad llenyddiaeth a gychwynwyd gennych eisoes ar Lefel 2, sy'n trafod prif themau eich testun. Mae'n bosib y byddwch wedi cwblhau rhywfaint o ymchwil gwreiddiol (ond mae hyn yn opsiynol) - er enghraifft, peth gwaith ymchwil meintiol neu ansoddol gwreiddiol y byddwch wedi ei gynnal gyda chymorth a chyfarwyddyd eich goruchwyliwr/aig. Drwy gydol y modiwl, byddwch yn datblygu eich dadansoddiad o'r lenyddiaeth ac unrhyw ddata a gasglwyd, ac yn ysgrifennu eich traethawd.
    or
    SXU-3010: Dissertation
    The dissertation is a substantial piece of work. The completed dissertation submitted at level 6 (year 3) consists of a written piece of work of 10,000 words. Within this module students will build on work begun at level 5, and work towards the completion of the dissertation. This will involve the refinement or expansion of the literature review begun at level 5, and will include discussion of major themes arising from the literature. Research for the dissertation may include a small amount of primary empirical research, for example a qualitative or quantitative study conducted by the student under the direction of their supervisor. Throughout the module, students will be engaged mainly in developing their analysis of the literature and any other data collected, and in writing the dissertation.
  • SCS-3013: Pwer, Cyfalaf a Chymdeithas (20)
    Diben y modiwl hwn yw astudio’r consensws a’r gwrthdaro o fewn cymdeithas, gan gwestiynnu’r modd y mae grymoedd cymdeithasol yn dylanwadu ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn codi cwestiynau ynglŷn â sut mae normau a gwerthoedd cymdeithasol yn cael ei gyfreithloni, gan gwestiynu buddiannau pwy sy’n cael ei gynrychioli gan y gwerthoedd hyn. Byddwn felly yn trafod y berthynas rhwng yr unigolyn a chymdeithas, gan gloriannu’r dadleuon rhwng galluedd yr unigolyn a dylanwad strwythurau cymdeithas ar yr unigolyn. Bydd y modiwl yn gorffen drwy ystyried enghreifftiau o synthesis theoretaidd rhwng y ddau safbwynt. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno’r myfyrwyr i rai o theoretwyr cymdeithasegol y cyfnod modern, gan adeiladau ar ei dealltwriaeth o theory gymdeithasegol glasurol. Cychwynnir drwy astudio’r modd y datblygodd y traddodiad Marcsaidd gan dalu sylw penodol at gyfraniad Antonio Gramsci. Wrth drafod gwaith Gramsci byddwn yn canolbwyntio ar ei gysyniad o hegemoni, rheolaeth gymdeithasol a chydsyniad. Yna byddwn yn astudio damcaniaeth gwrthdaro, a chyfraniad meddylwyr yr Ysgol Frankfurt (e.e. Marcuse, Adorno, Hokenhimer, a Habermas). Fel Gramsci, roedd y theoretwyr hyn yn ysgrifennu yn y traddodiad Marcsaidd gyda diddordeb mewn pŵer a rheolaeth gymdeithasol. Astudiwn y modd yr oedd y theoretwyr amrywiol o fewn yr YF yn dehongli’r modd yr oedd y system yn tra-arglwyddi dros unigolion, yn gorchymyn, manipiwleiddio, dallu a thwyllo unigolion i gynnal ac atgynhyrchu strwythur cymdeithas. Bydd y modiwl yn cloi drwy ystyried cyfraniad Pierre Bourdieu a’i ymgais i gynhyrchu synthesis o alluedd yr unigolyn a dylanwad strwythur cymdeithas. Trafodir cysyniadau Bourdieu o habitus, cyfalaf, a meysydd, gan drafod y modd cudd y mae Bourdieu yn gweld pŵer yn dylanwadu ar ein bywydau beunyddiol. Byddwn hefyd yn ystyried defnydd ffeministiaid o gysyniadau Bourdieu o ran theory ymgorfforiad.

Optional Modules

20 credits from:

  • HPS-3001: Work Placement - Semester 1 (20) (Semester 1) or
    HAC-3001: Lleoliad Gwaith - Semester 1 (20) (Semester 1)
  • HAC-3002: Addysg yn y Gymru Gyfoes (20) (Semester 1)
  • SCY-3004: Yr Heddlu a Chymdeithas Gyfoes (20) (Semester 1)
    Amcan pennaf y fodiwl yw trafod ein dealltwriaeth o'r heddlu, ac yn ehangach, eu swyddogaeth mewn cymdeithas gyfoes. Yn y blynyddoedd diweddar, mae'r heddlu fel sefydliad wedi profi newid sylweddol a bydd y pwysau gan y Llywodraeth am ddiwygiadau pellach yn parhau. Ystyriwn polisiau ac ymarfer gwaith cyfoes yr heddlu a'r fframwaith statudol y maent yn gweithredu. Trafodir y newid yng nghyd-destun polisi cyfiawnder troseddol:- eu prif swyddogaethau; yr heddlu a'r cyfryngau; atal trosedd a gweithio mewn partneriaeth; datblygiadau mewn polisi cyffuriau; yr heddlu; trefn gyhoeddus ac iawnderau dynol; asesu cyfrifoldeb, ansawdd a pherfformiad; cyfle cyfartal a rheoli i'r dyfodol.
  • SCS-3010: Hawliau Ieithyddol (20) (Semester 2)
    Ceir ymdriniaeth drylwyr o faes hawliau ieithyddol yn ystod y modiwl hon. Mae'n cynnwys ymdrin â'r ddadl ynghylch hawliau ieithyddol a gosod yr hawliau hyn o fewn fframwaith polisi hanesyddol y maes ac yn ogystal o fewn cyd-destun ehangach hawliau lleiafrifol. Mae'r modiwl yn pwyso a mesur hawliau'r unigolyn a hawliau grwp a'r damcaniaethau allweddol sydd ynghlwm wrthynt. Bydd y modiwl hefyd yn cynnwys trafodaeth ynglyn â sicrhau hawliau ieithyddol mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yng Nghymru, ac yn ogystal, yn tynnu ar ddatblygiadau ar lefel Ewropeaidd yn y maes.
  • HPS-3011: Paradoxes of Self: Nietz..Jung (20) (Semester 1)

0 credits from: