Module WXC-1011:
Cyfansoddi Blwyddyn 1

Module Facts

Run by School of Music and Media

20 Credits or 10 ECTS Credits

Semester 1 & 2

Organiser: Dr Owain Brown

Overall aims and purpose

  1. Addysgu myfyrwyr sut i gyfansoddi mewn modd strwythuredig a than gyfarwyddyd, gan ddefnyddio enghreifftiau o ddechrau’r 20fed ganrif fel arweiniad.

  2. Dangos sut yr esblygodd prif egwyddorion cyfansoddi, sef harmoni, rhythm, datblygiad motifaidd ac adeiledd, yn ystod rhan gyntaf yr 20fed ganrif a dangos eu perthnasedd i gyfansoddi yn y 21ain ganrif.

  3. Cyflwyno offer cyfansoddi i fyfyrwyr, fel y gallant eu defnyddio fel y mynnont.

  4. Addysgu myfyrwyr sylfeini offeryniaeth a cherddorfäaeth, ac edrych ar ysgrifennu lleisiol.

  5. Trafod materion cysylltiedig â gosodiad a chyflwyniad sgôr, p’un a fo wedi’i phrosesu neu wedi’i hysgrifennu â llaw.

Course content

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno’r myfyriwr i rai o’r technegau cyfansoddi a ddefnyddiwyd yn yr 20fed ganrif, gan ddangos sut mae harmoni, rhythm, adeiledd, offeryniaeth a thraw wedi datblygu. Rhoddir y cyfryngau sylfaenol i’r myfyrwyr ar gyfer cyfansoddi. Bydd y cwrs hefyd yn ystyried offerynnau penodol a’u nodweddion arbennig, yn ogystal ag ysgrifennu ar gyfer y llais. Yna anogir y myfyrwyr i roi cynnig ar y technegau yn eu cyfansoddiadau hwy eu hunain.

Assessment Criteria

threshold

Cyfansoddi, gan ddangos rhywfaint o ddefnydd ar elfennau sylfaenol yr 20fed ganrif, yn harmonig, yn rhythmig ac yn adeileddol, ynghyd â dealltwriaeth o offerynnau a gosodiad.

good

Cyfansoddi rhywbeth gan ddangos dealltwriaeth glir o elfennau harmonig, rhythmig ac adeileddol yr 20fed ganrif, a’r gallu i ysgrifennu’n ymarferol ar gyfer yr offerynnau a ddefnyddir, a gosod sgorau yn gywir.

excellent

Cyfansoddi gan ddefnyddio defnydd dychmygus ac arloesol ar elfennau harmonig, rhythmig ac adeileddol, a’r gallu i ysgrifennu, yn ymarferol ac yn idiomatig, ar gyfer yr offerynnau, gan osod sgorau yn ôl egwyddorion cyhoeddi.

Learning outcomes

  1. Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru cyfansoddi mewn arddull bersonol, wedi ei seilio ar fodelau’r 20fed ganrif;

  2. Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru ymdrin gyda chysyniadau sylfaenol ynglyn ag offeryniaeth/cerddorfaeth, trwy ysgrifennu’n idiomatig ar gyfer offerynnau/lleisiau penodol;

  3. Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn medru datblygu syniadau a deunydd cerddorol yn hyderus i greu cyfansoddiadau sy'n arddangos elfennau dychmygus a chysondeb mewn arddull a ffurf.

  4. Erbyn cwblhau y modiwl dylai'r myfyrwyr fod yn adnabod a dirnad darnau penodol o repertoire cerddorol yr 20fed ganrif gan fedru gwahaniaethu rhwng gwahanol idiomau ac arddulliau o fewn y cyfnod hwn.

Assessment Methods

Type Name Description Weight
COURSEWORK Prif Aseiniad 1

Cyfansoddiad oddeutu 4 munud ar gyfer pumawd chwyth (ffliwt, obo, clarinet, baswn a cyrn).

Bydd manylion llawn am y Gwaith Cwrs yn cael ei gynnwys yn Llawlyfr y Modiwl.

30
COURSEWORK Gwaith Cwrs 2

Cyfansoddi darn byr (oddeutu 1-2 funud) ar gyfer ffliwt, fiola a thelyn NEU ffliwt feibraffon a thelyn.

Bydd manylion llawn am y Gwaith Cwrs yn cael ei gynnwys yn Llawlyfr y Modiwl.

15
COURSEWORK Prif Aseiniad 2

Cyfansoddwch ddarn oddeutu 5 munud o hyd, ar gyfer rhwng wyth a deg o berfformwyr.

Bydd manylion llawn am y Prif Aseiniad yn cael ei gynnwys yn Llawlyfr y Modiwl.

30
COURSEWORK Gwaith Cwrs 1

Cyfansoddwch ddarn tua 1.5 - 2 funud o hyd ar gyfer piano.

Bydd manylion llawn am y Gwaith Cwrs yn cael ei gynnwys yn Llawlyfr y Modiwl.

15
CLASS TEST Prawf repertoire 1

Prawf repertoire sy'n cynnwys y gwahanol dechnegau cyfansoddi a recordiadau o'r cyfansoddiadau a astudiwyd drwy gydol Semester 1.

Dyddiad y prawf i'w gadarnhau.

5
CLASS TEST Prawf repertoire 2

Prawf repertoire sy'n cynnwys y gwahanol dechnegau cyfansoddi a recordiadau o'r cyfansoddiadau a astudiwyd drwy gydol Semester 2.

Dyddiad y prawf i'w gadarnhau.

5

Teaching and Learning Strategy

Hours
Private study 168
Lecture

22 darlith (awr o hyd), yn wythnosol, trwy'r flwyddyn gyfan

22
Seminar

10 seminar (awr o hyd), yn bythefnosol, trwy'r flwyddyn gyfan

10

Transferable skills

  • Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
  • Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
  • Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
  • Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
  • Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
  • Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
  • Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
  • Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
  • Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others

Subject specific skills

  • Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
  • Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
  • Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
  • Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
  • Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
  • Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
  • Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
  • Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)

Resources

Pre- and Co-requisite Modules

Courses including this module

Compulsory in courses:

Optional in courses: