Module SCW-4005:
Polisi Cym ar gyfer Ymarfer GC
Polisi Cymdeithasol ar gyfer Ymarfer Gwaith Cymdeithasol 2023-24
SCW-4005
2023-24
School of Health Sciences
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Wendy Roberts
Overview
Bydd y modiwl hwn yn delio â’r pynciau canlynol:
• Beth yw Polisi Cymdeithasol a pham mae’n berthnasol i waith cymdeithasol
• Terminoleg a chysyniadau craidd
• Datblygiad Polisi Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol ac ymagwedd Gymreig unigryw at Ofal Cymdeithasol
• Ideoleg a Lles Cymdeithasol
• Y broses o ddatblygu a gweithredu deddfwriaeth a pholisïau cymdeithasol yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig.
• Ystyriaethau cyllidol i ddarparu lles cymdeithasol yng Nghymru.
• Tlodi ac eithrio cymdeithasol yng Nghymru
• Amrywiaeth, anghydraddoldebau cymdeithasol a phroffesiwn gwaith cymdeithasol.
• Gweithio rhwng asiantaethau wrth weithredu polisïau cymdeithasol
• Polisïau ym maes Iechyd, Addysg a Hyfforddiant, Ategiad Incwm, Tai a Digartrefedd, Cyflogaeth a Diweithdra, Y Gwasanaethau Cymdeithasol Personol, Cyfiawnder Troseddol, Cyffuriau, Lloches ac Ymfudo
• Cymharu polisïau ac arferion lles ledled y Deyrnas Unedig
• Polisi Cymdeithasol a’r Undeb Ewropeaidd
• Dyfodol y Wladwriaeth Les
Cysylltir y pynciau uchod â gwaith gyda Phlant a Theuluoedd a chydag Oedolion - bydd y brif ffocws ar gyd-destun Cymru ac ar Bolisi Cymdeithasol Cymru, ond rhoddir ystyriaeth feirniadol i bolisïau a gwasanaethau mewn gwledydd eraill. Bydd rhai sesiynnau yn cynnwus cyfraniad gan ddinasyddion.
Assessment Strategy
-threshold (C) -I lwyddo ar y lefel hon, disgwylir i fyfyrwyr gyflawni’r deilliannau i safon sylfaenol. Bydd y myfyrwyr yn gallu deall a dadansoddi cyd-destun polisi cymdeithasol i lefel foddhaol, a gallu ymdrin â pherthnasedd y pwnc i waith cymdeithasol ar lefel sylfaenol. Bydd y myfyrwyr yn gallu trafod yn sylfaenol y theorïau a’r ystyriaethau canolog ym maes polisi cymdeithasol. Dylai’r myfyrwyr fedru dangos gallu sylfaenol i ddadansoddi ystod eang o bolisïau cymdeithasol yn feirniadol. Ar y lefel hon dylai’r myfyrwyr fod yn weddol gyfarwydd â chyfraniad gwaith cymdeithasol yn dylanwadu ar bolisïau cymdeithasol a’u gweithredu, a dylent fedru dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r cyd-destun Cymreig, y Deyrnas Unedig ac Ewropeaidd yn ymwneud â phroblemau a pholisïau cymdeithasol. Disgwylir i fyfyrwyr ar y lefel hon fod yn weddol gyfarwydd â’r sialensiau sy’n wynebu’r wladwriaeth les yn y dyfodol a gallu ymdrin â hwy'n weddol ddeallus.
-good -(B) I lwyddo ar y lefel hon, disgwylir i fyfyrwyr gyflawni’r deilliannau i safon dda. Bydd y myfyrwyr yn gallu deall a dadansoddi cyd-destun polisi cymdeithasol i lefel foddhaol, a gallu ymdrin â pherthnasedd y pwnc i waith cymdeithasol ar lefel dda. Bydd y myfyrwyr yn gallu trafod yn ddeallus y theorïau a’r ystyriaethau canolog ym maes polisi cymdeithasol. Dylai’r myfyrwyr fedru dangos gallu boddhaol i ddadansoddi ystod eang o bolisïau cymdeithasol yn feirniadol. Ar y lefel hon dylai’r myfyrwyr fod yn gyfarwydd iawn â chyfraniad gwaith cymdeithasol yn dylanwadu ar bolisïau cymdeithasol a’u gweithredu, a dylent fedru dangos dealltwriaeth sylfaenol o’r cyd-destun Cymreig, y Deyrnas Unedig ac Ewropeaidd yn ymwneud â phroblemau a pholisïau cymdeithasol. Disgwylir i fyfyrwyr ar y lefel hon fod yn gyfarwydd â’r sialensiau sy’n wynebu’r wladwriaeth les yn y dyfodol a gallu ymdrin â hwy'n ddeallus.
-excellent -(A) I lwyddo ar y lefel hon, disgwylir i fyfyrwyr gyflawni’r deilliannau i safon ragorol. Bydd y myfyrwyr yn gallu deall a dadansoddi cyd-destun polisi cymdeithasol i lefel fanwl, a gallu ymdrin â pherthnasedd y pwnc i waith cymdeithasol yn drylwyr. Bydd y myfyrwyr yn gallu trafod yn hynod ddeallus y theorïau a’r ystyriaethau canolog ym maes polisi cymdeithasol. Dylai’r myfyrwyr fedru dangos gallu rhagorol i ddadansoddi ystod eang o bolisïau cymdeithasol yn feirniadol. Ar y lefel hon dylai’r myfyrwyr fod yn eithriadol gyfarwydd â chyfraniad gwaith cymdeithasol yn dylanwadu ar bolisïau cymdeithasol a’u gweithredu, a dylent fedru dangos dealltwriaeth drwyadl o’r cyd-destun Cymreig, y Deyrnas Unedig ac Ewropeaidd yn ymwneud â phroblemau a pholisïau cymdeithasol. Disgwylir i fyfyrwyr ar y lefel hon fod yn gyfarwydd iawn â’r sialensiau sy’n wynebu’r wladwriaeth les yn y dyfodol a gallu ymdrin â hwy'n ddeallus iawn.
Learning Outcomes
- Archwilio cyfraniad gwaith cymdeithasol mewn perthynas â dylanwadu a gweithredu polisïau sy’n hyrwyddo lles dinasyddion.
- Archwilio yn fedrus y sialensiau sy’n wynebu polisi cymdeithasol i’r dyfodol.
- Archwilio yn fedrus y sialensiau sy’n wynebu’r wladwriaeth les i’r dyfodol
- Archwilio yn feirniadol y gwasanaethau cymdeithasol/gwaith cymdeithasol a llesiant sydd ar gael i gwrdd ag ystod eang o anghenion.
- Dadansoddi’n feirniadol a gwerthuso amrywiol bolisïau cymdeithasol sy’n berthnasol wrth ymarfer ym maes gwaith cymdeithasol.
- Dangos dealltwriaeth ac yn gallu dadansoddi cyd-destun polisi cymdeithasol, a chydnabod perthnasedd a phwysigrwydd y pwnc i waith cymdeithasol.
- Dangos dealltwriaeth a’r gallu i ddadansoddi datblygiad cyd-destun polisi cymdeithasol yn feirniadol.
- Dangos dealltwriaeth feirniadol o’r cyd-destun Cymreig i broblemau a pholisïau cymdeithasol, yn ogystal â’r sefyllfa ar lefel y Deyrnas Unedig, Ewropeaidd ac y byd eang.
- Trafod yn feirniadol y themâu a’r ystyriaethau canolog ym maes polisi cymdeithasol.
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
2,500 word assignment
Weighting
50%
Due date
01/12/2023
Assessment method
Exam (Centrally Scheduled)
Assessment type
Summative
Description
2-hour final examination
Weighting
50%
Due date
22/01/2024